1. Roedd Solomon yn frenin ar Israel gyfan.
2. Dyma ei swyddogion:Asareia fab Sadoc oedd yr offeiriad.
3. Elichoreff ac Achïa, meibion Shisha, oedd ei ysgrifenyddion.Jehosaffat fab Achilwd oedd y cofnodydd swyddogol.
4. Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth y fyddin,a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.
5. Asareia fab Nathan oedd pennaeth swyddogion y rhanbarthau;yna Sabwd fab Nathan yn offeiriad ac yn gynghorwr agos i'r brenin.
6. Achishar oedd yn rhedeg y palas a gofalu am holl eiddo'r brenin,ac Adoniram fab Afda oedd swyddog y gweithlu gorfodol.
7. Roedd gan Solomon ddeuddeg swyddog rhanbarthol dros wahanol ardaloedd yn Israel. Roedden nhw'n gyfrifol am ddarparu bwyd i'r brenin a'i lys – pob un yn gyfrifol am un mis y flwyddyn.
8. Dyma'u henwau nhw:Ben-chŵr: ar fryniau Effraim;
9. Ben-decar: yn Macats, Shaalfîm, Beth-shemesh ac Elon-beth-chanan;
10. Ben-chesed: yn Arwboth (roedd ei ardal e'n cynnwys Socho a holl ardal Cheffer);
11. Ben-abinadab: yn Naffath-dor i gyd (roedd e wedi priodi Taffath, merch Solomon);
12. Baana fab Achilwd: yn Taanach, Megido a'r rhan o Beth-shean sydd wrth ymyl Sarethan, o dan Jesreel. Roedd ei ardal yn mynd o Beth-shean hyd at Abel-mechola a'r tu hwnt i Jocmeam;
13. Ben-geber: yn Ramoth-gilead. Roedd ei ardal e'n cynnwys gwersylloedd Jair mab Manasse, yn Gilead, ac ardal Argob yn Bashan oedd yn cynnwys chwe deg o drefi mawr, pob un gyda waliau cadarn a barrau pres ar eu giatiau;
14. Achinadab fab Ido: yn Machanaîm;
15. Achimaats: yn Nafftali (fe wnaeth briodi Basemath, merch Solomon);
16. Baana fab Chwshai: yn Asher ac yn Aloth;
17. Jehosaffat fab Parŵach: yn Issachar;
18. Shimei fab Ela: yn Benjamin;
19. a Geber fab Wri: yn ardal Gilead (sef y wlad oedd yn perthyn ar un adeg i Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Bashan). Fe oedd yr unig swyddog yn y rhanbarth hwnnw i gyd.
20. Roedd poblogaeth fawr yn Jwda ac Israel, roedd pobl fel y tywod ar lan y môr, ond roedd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta a'i yfed, ac roedden nhw'n hapus.
21. Roedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl ardaloedd o Afon Ewffrates i wlad y Philistiaid ac i lawr at y ffin gyda'r Aifft. Roedd y teyrnasoedd yma i gyd yn talu trethi iddo, ac yn gwasanaethu Solomon ar hyd ei oes.
22. Dyma beth oedd ei angen ar lys Solomon bob dydd:tri deg mesur o'r blawd gorauchwe deg mesur o flawd cyffredin,
23. deg o loi wedi eu pesgi,dau ddeg o loi oedd allan ar y borfa,a cant o ddefaid.Roedd hyn heb sôn am y ceirw, gaseliaid, iyrchod a gwahanol fathau o ffowls.
24. Achos roedd y llys brenhinol mor fawr – roedd yn rheoli'r holl ardaloedd i'r gorllewin o Tiffsa ar lan Afon Ewffrates i lawr i Gasa, ac roedd heddwch rhyngddo â'r gwledydd o'i gwmpas.
25. Pan oedd Solomon yn fyw, roedd pawb yn Jwda ac Israel yn teimlo'n saff. Roedd gan bawb, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, gartref a thir i allu mwynhau cynnyrch eu gwinwydd a'u coed ffigys.
26. Roedd gan Solomon stablau i ddal pedwar deg mil o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo un deg dau o filoedd o farchogion.
27. Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim.
28. Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i'w roi i'r ceffylau a'r meirch.
29. Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr.
30. Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a'r Aifft.
31. Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nac Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy'r gwledydd o'i gwmpas i gyd.
32. Roedd wedi llunio tair mil o ddiarhebion a chyfansoddi mil a phump o ganeuon.
33. Roedd yn gallu siarad am blanhigion, o'r coed cedrwydd mawr yn Libanus i'r isop sy'n tyfu ar waliau. Roedd hefyd yn gallu traethu am anifeiliaid, adar, ymlusgiaid a phryfed a physgod.
34. Roedd brenhinoedd y gwledydd i gyd i yn anfon pobl at Solomon i wrando ar ei ddoethineb.