Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,Damhegion anhraethol eu gwerthA draethodd ein tadau gynt wrthymAm Dduw a’i weithredoedd a’i nerth.Rhoes arnom ddyletswydd i’w traethuI’n plant dros yr oesau a fydd,Rhag iddynt hwy fod fel eu tadau’nGenhedlaeth derfysglyd, ddi-ffydd.