Hen Destament

Salmau 119:121-124-153-156 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

121-124. Mi wneuthum i farn a chyfiawnder,Na ad fi i’m gorthrymwyr, ond byddYn feichiau i’th was; paid â gadaelI’r beilchion fy llethu bob dydd.Rwy’n nychu am dy iachawdwriaeth,Am weled cyfiawnder dy ras.O delia â mi yn dy gariad,A dysga dy ddeddfau i’th was.

125-128. Dy was ydwyf fi; rho im ddeallDy farnedigaethau o hyd.Mae’n amser i’r Arglwydd weithredu,Cans torrwyd dy gyfraith i gyd.Er hynny, rwy’n caru d’orchmynionYn fwy, ie’n fwy, nag aur drud.Mi gerddaf yn ôl dy ofynion;Casâf lwybrau dichell y byd.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D

129-132. Rhyfeddol dy farnedigaethau;Am hynny fe’u cadwaf i gyd.Pan roddi dy air, mae’n goleuo;Rhydd ddeall i’r syml ei fryd.Rwy’n agor fy ngenau i flysioD’orchmynion; O Dduw, trugarha;Tro ataf, yn unol â’th arferI’r rhai sy’n dy garu di’n dda.

133-136. O cadw fy ngham i yn sicr;Na rwystred drygioni dy was.Rhyddha fi rhag gormes a gorthrwm,A chadwaf ofynion dy ras.Boed llewyrch dy wyneb di arnaf,A dysga dy ddeddfau i mi.Rwy’n wylo am nad ydyw poblYn cadw dy lân gyfraith di.Dwedwch, fawrion o wybodaeth 88.88

137-138. Arglwydd, yr wyt ti yn gyfiawn,Ac y mae dy farnau’n uniawn.Cyfiawn dy farnedigaethau,Cwbl ffyddlon ydwyt tithau.

139-140. Mae ’nghynddaredd wedi cynnauAm fod rhai’n anghofio d’eiriau.Mae d’addewid wedi’i phrofi,Ac rwyf finnau yn ei hoffi.

141-142. Er fy mod i’n llai na’r lleiaf,Dy ofynion nid anghofiaf.Dy gyfiawnder byth sydd berffaith,A gwirionedd yw dy gyfraith.

143-144. Er bod gofid ar fy ngwarthaf,Yn d’orchmynion ymhyfrydaf.Cyfiawn dy farnedigaethau;Rho im ddeall, a byw finnau.Tan-y-marian 87.87.D

145-148. Gwaeddaf arnat; Arglwydd, ateb,Ac i’th ddeddfau ufuddhaf.Tyrd i’m gwared, ac fe gadwafDy farnedigaethau braf.Cyn y wawr rwy’n ceisio cymorth,Yn dy air mae ’ngobaith i.Rwy’n myfyrio ym mân oriau’rNos ar dy addewid di.

149-152. Gwrando ’nghri yn ôl dy gariad,’N ôl dy farnau adfer fi.Agos yw f’erlidwyr castiog,Pell oddi wrth dy gyfraith di.Yr wyt ti yn agos, Arglwydd.Mae d’orchmynion oll yn wir.Seiliaist dy farnedigaethauYn dragywydd yn y tir.Eirinwg 98.98.D

153-156. O edrych ar f’adfyd a’m gwared,Cans cofiais dy lân gyfraith di.Amddiffyn fy achos a’m hadfer,Yn ôl dy addewid i mi.Ni ddaw i’r rhai drwg iachawdwriaeth:I’r rhain aeth dy ddeddfau yn sarn.Mawr yw dy drugaredd, O Arglwydd;Adfywia fi’n unol â’th farn.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 119