Rhyfeddol dy farnedigaethau;Am hynny fe’u cadwaf i gyd.Pan roddi dy air, mae’n goleuo;Rhydd ddeall i’r syml ei fryd.Rwy’n agor fy ngenau i flysioD’orchmynion; O Dduw, trugarha;Tro ataf, yn unol â’th arferI’r rhai sy’n dy garu di’n dda.