1-3. Paid â thewi, Dduw fy moliant.Pobl ddrwg a ddywedasantEu celwyddau cas amdanaf,A, heb sail, ymosod arnaf.
4-5. Cwynant am fy ngharedigrwydd;Rwy’n gweddïo drostynt, Arglwydd.Drwg am dda i mi a dalant,Cas am gariad, a dywedant:
6-7. “Rhowch ar ei ddeheulaw elyn;Euog fydd, a’i weddi’n wrthun.Boed ei ddyddiau’n brin, a rhodderArall yn ei swydd ar fyrder.