Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 1 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul – gwas y Meseia Iesu. Dw i wedi cael fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, ac wedi cael fy anfon allan i rannu newyddion da Duw.

2. Dyma'r newyddion da gafodd ei addo ymlaen llaw drwy beth ddwedodd y proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd. Ie, y newyddion da

3. am ei Fab, Iesu y Meseia, ein Harglwydd ni. Fel dyn, roedd Iesu yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd,

4. ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.

5. Mae Duw wedi rhoi i ni y fraint a'r cyfrifoldeb o'i gynrychioli, ac o alw pobl o bob gwlad i gredu ynddo ac i fyw'n ufudd iddo.

6. A dych chi'n rhai o'r bobl hynny – wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia.

7. Dw i'n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi eich caru gan Dduw a'ch gwneud yn bobl arbennig iddo.Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

Paul yn hiraethu am gael mynd i Rufain

8. Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i'n diolch i Dduw trwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy'r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi.

9. Dw i wrthi'n gweithio fy ngorau glas dros Dduw trwy gyhoeddi'r newyddion da am ei Fab, ac mae e'n gwybod mod i'n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd.

10. Dw i'n gweddïo y bydd e'n ei gwneud hi'n bosib i mi ddod atoch chi o'r diwedd.

11. Dw i wir yn hiraethu am gael dod i'ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi'n gryf.

12. Byddwn i a chithau'n cael ein calonogi wrth i ni rannu'n profiadau.

13. Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod acw lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod.

14. Mae'n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i'w thalu! Dim ots os ydyn nhw'n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu'n farbariaid cwbl ddi-addysg.

15. A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi'r newyddion da.

16. Does gen i ddim cywilydd o'r newyddion da o gwbl. Dyma'r ffordd rymus mae Duw'n gweithio i achub pawb sy'n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd.

17. Dyma'r newyddion da sy'n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e'n ffyddlon. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Trwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.”

Mae pawb yn haeddu cael eu cosbi gan Dduw

18. Ond mae Duw yn y nefoedd yn dangos ei fod yn ddig ac yn cosbi'r holl bethau drwg mae pobl yn eu gwneud yn ei erbyn. Maen nhw'n mygu'r gwirionedd gyda'u drygioni.

19. Mae beth sydd i'w wybod am Dduw yn amlwg – mae Duw wedi ei wneud yn ddigon clir i bawb.

20. Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae'r holl bethau mae wedi eu creu yn dangos yn glir mai fe ydy'r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!

21. Ond y drwg ydy, er bod pobl yn gwybod fod Duw'n bodoli, maen nhw wedi gwrthod ei anrhydeddu a diolch iddo. Yn lle hynny maen nhw wedi hel pob math o syniadau dwl. Maen nhw wir yn y tywyllwch.

22. Ydyn, maen nhw'n meddwl eu bod nhw mor glyfar, ond ffyliaid ydyn nhw go iawn!

23. Yn lle addoli'r Duw bendigedig sy'n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi eu cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw – pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid.

24. Felly mae Duw wedi gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain. Maen nhw wedi dewis gwneud pob math o bethau mochaidd, ac amharchu eu cyrff gyda'i gilydd.

25. Maen nhw wedi credu celwydd yn lle credu beth sy'n wir am Dduw! Maen nhw'n addoli a gwasanaethu pethau sydd wedi cael eu creu yn lle addoli'r Crëwr ei hun! – yr Un sy'n haeddu ei foli am byth! Amen!

26. Ydy, mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy'n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn.

27. A dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw'n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu'r gosb maen nhw'n ei haeddu.

28. Am fod pobl wedi gwrthod credu beth sy'n wir am Dduw, mae e wedi gadael iddyn nhw ddilyn eu syniadau pwdr. Maen nhw'n gwneud popeth o'i le –

29. ymddwyn yn anghyfiawn, gwneud pethau drwg, bod yn farus a hunanol, bod yn faleisus, cenfigennu, llofruddio, cecru, twyllo, bod yn sbeitlyd a hel straeon am bobl eraill.

30. Maen nhw'n enllibio pobl, yn casáu Duw, yn haerllug, yn snobyddlyd a hunanbwysig, ac yn meddwl o hyd am ryw ffordd newydd i bechu. Does ganddyn nhw ddim parch at eu rhieni,

31. dydyn nhw'n deall dim, maen nhw'n torri eu gair, yn ddiserch ac yn dangos dim trugaredd.

32. Maen nhw'n gwybod yn iawn fod Duw wedi dweud fod pawb sy'n gwneud y pethau yma yn haeddu marw. Ond maen nhw'n dal ati er hynny, ac yn waeth fyth yn annog pobl eraill i wneud yr un fath â nhw!