Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n dyheu o waelod calon ac yn gweddïo ar Dduw y bydd fy mhobl, yr Iddewon, yn cael eu hachub.

2. Galla i dystio eu bod nhw'n frwdfrydig dros Dduw, ond dŷn nhw ddim wedi deall y gwirionedd.

3. Yn lle derbyn ffordd Duw o ddod â phobl i berthynas iawn ag e ei hun, maen nhw wedi mynnu ceisio gwneud eu hunain yn iawn gyda Duw drwy gadw'r Gyfraith. Felly maen nhw wedi gwrthod plygu i Dduw.

4. Ond y Meseia ydy'r nod mae Cyfraith Duw yn anelu ato! Felly y rhai sy'n credu ynddo fe sy'n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw.

5. Dyma ddwedodd Moses am y Gyfraith fel ffordd o gael perthynas iawn gyda Duw: “Y sawl sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn.”

6. Ond mae cael perthynas iawn gyda Duw trwy gredu yn dweud: “Paid meddwl: Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd?” (hynny ydy, i ddod â'r Meseia i lawr)

7. Neu “Pwy wnaiff fynd i lawr i'r dyfnder” (hynny ydy, i ddod â'r Meseia yn ôl yn fyw).

8. Dyma mae'n ei ddweud: “Mae'r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.” (Hynny ydy, y neges dŷn ni'n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy'r ffordd):

9. Os wnei di gyffesu ‛â'th wefusau‛, “Iesu ydy'r Arglwydd”, a chredu ‛yn dy galon‛ fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub.

10. Credu yn y galon sy'n dy wneud di'n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny'n agored.

11. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.”

12. Mae'n union yr un fath i'r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae'n rhoi yn hael o'i fendithion i bwy bynnag sy'n galw arno.

13. Achos, “Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub.”

14. Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw'n mynd i gredu ynddo heb fod wedi clywed amdano? Sut maen nhw'n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw?

15. A phwy sy'n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da yn dod!”

16. Ond dydy pawb ddim wedi derbyn y newyddion da. Fel mae'r proffwyd Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy sydd wedi credu ein neges ni?”

17. Mae'n rhaid clywed cyn gallu credu – clywed rhywun yn rhannu'r newyddion da am y Meseia.

18. Felly ai dweud ydw i fod yr Iddewon heb glywed? Na, fel arall yn hollol: “Mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud, a'u neges wedi mynd i ben draw'r byd.”

19. Felly, ai'r broblem ydy fod Israel heb ddeall y neges? Na! – Moses ydy'r cyntaf i roi ateb, “Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl; a'ch gwneud yn ddig trwy fendithio pobl sy'n deall dim.”

20. Ac roedd y proffwyd Eseia ddigon dewr i gyhoeddi fod Duw yn dweud, “Daeth pobl oedd ddim yn chwilio amdana i o hyd i fi; Dangosais fy hun i rai oedd ddim yn gofyn amdana i.”

21. Ond mae'n dweud fel yma am Israel: “Bues i'n estyn fy llaw atyn nhw drwy'r adeg, ond maen nhw'n bobl anufudd ac ystyfnig.” # Eseia 65:2 (LXX)