Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 13 beibl.net 2015 (BNET)

Ymostwng i'r Awdurdodau sifil

1. Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy'n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae'r awdurdodau presennol wedi eu rhoi yn eu lle gan Dduw.

2. Mae rhywun sy'n gwrthwynebu'r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi ei ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi.

3. Does dim rhaid ofni'r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy'n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy'n iawn a chei dy ganmol.

4. Wedi'r cwbl mae'r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti'n gwneud drygioni, mae'n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae'n gwasanaethu Duw drwy gosbi'r rhai sy'n gwneud drwg.

5. Felly dylid bod yn atebol i'r awdurdodau, dim yn unig i osgoi cosb, ond hefyd i gadw'r gydwybod yn lân.

6. Dyna pam dych chi'n talu trethi hefyd – gweision Duw ydyn nhw, ac mae ganddyn nhw waith i'w wneud.

7. Felly talwch beth sy'n ddyledus i bob un – trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw.

Cariad, am fod y diwedd yn agos

8. Ond mae un ddyled allwch chi byth ei thalu'n llawn, sef y ddyled i garu'ch gilydd. Mae cariad yn gwneud popeth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn.

9. Mae'r gorchmynion i gyd – “Paid godinebu,” “Paid llofruddio,” “Paid dwyn,” “Paid chwennych,” ac yn y blaen – yn cael eu crynhoi yn yr un rheol yma: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.”

10. Dydy cariad ddim yn gwneud niwed i neb, felly cariad ydy'r ffordd i wneud popeth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn.

11. Dylech chi fyw fel hyn am eich bod chi'n deall beth sy'n digwydd. Mae'n bryd i chi ddeffro o'ch difaterwch! Mae diwedd y stori, pan fyddwn ni'n cael ein hachub yn derfynol, yn agosach nag oedd pan wnaethon ni ddod i gredu gyntaf.

12. Mae'r nos bron mynd heibio, a'r diwrnod newydd ar fin gwawrio. Felly gadewch i ni stopio ymddwyn fel petaen ni'n perthyn i'r tywyllwch, a pharatoi'n hunain i frwydro dros y goleuni.

13. Gadewch i ni ymddwyn yn weddus fel petai'n olau dydd. Dim partïon gwyllt a meddwi; dim ymddwyn yn anfoesol; dim penrhyddid i'r chwantau; dim ffraeo a chenfigennu.

14. Gadewch i'r Arglwydd Iesu Grist fod fel gwisg amdanoch chi, a pheidiwch rhoi sylw i'ch chwantau hunanol drwy'r adeg.