Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 16 beibl.net 2015 (BNET)

Stori y fforman craff

1. Dyma Iesu'n dweud y stori yma wrth ei ddisgyblion: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn cyflogi fforman, ac wedi clywed sibrydion ei fod yn gwastraffu ei eiddo.

2. Felly dyma'r dyn yn galw'r fforman i'w weld, a gofyn iddo, ‘Beth ydy hyn dw i'n ei glywed amdanat ti? Dw i eisiau gweld y llyfrau cyfrifon. Os ydy'r stori'n wir, cei di'r sac.’

3. “‘Beth dw i'n mynd i wneud?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i'n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota.

4. Dw i'n gwybod! Dw i'n mynd i wneud rhywbeth fydd yn rhoi digon o ffrindiau i mi, wedyn pan fydda i allan o waith bydd digon o bobl yn rhoi croeso i mi yn eu cartrefi.’

5. “A dyma beth wnaeth – cysylltodd â phob un o'r bobl oedd mewn dyled i'w feistr. Gofynnodd i'r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i'm meistr i?’

6. “‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai.“Yna meddai'r fforman, ‘Tafla'r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’

7. “Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’“‘Can erw o wenith,’ atebodd.“‘Tafla'r bil i ffwrdd,’ meddai'r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’

8. “Roedd rhaid i'r meistr edmygu'r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae'n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau.

9. Dw i'n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau trwy ddefnyddio'ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd.

10. “Os gellir eich trystio chi gyda pethau bach, gellir eich trystio chi gyda pethau mawr. Ond os ydych chi'n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda pethau mawr?

11. Felly os dych chi ddim yn onest wrth drin arian, pwy sy'n mynd i'ch trystio chi gyda'r gwir gyfoeth?

12. Os dych chi ddim yn onest wrth drin eiddo pobl eraill, pwy sy'n mynd i roi eiddo i chi ei gadw i chi'ch hun?

13. “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.”

14. Pan glywodd y Phariseaid hyn roedden nhw'n gwneud hwyl am ben Iesu, gan eu bod nhw'n hoff iawn o'u harian.

15. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n hoffi rhoi'r argraff eich bod chi mor dduwiol, ond mae Duw yn gwybod beth sydd yn eich calonnau chi! Mae beth mae pobl yn ei gyfri'n bwysig yn ddiwerth yng ngolwg Duw.”

Pethau eraill ddysgodd Iesu

16. “Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi oedd gynnoch chi nes i Ioan Fedyddiwr ddechrau pregethu. Ond ers hynny mae'r newyddion da fod Duw'n teyrnasu yn cael ei gyhoeddi, ac mae pawb yn cael eu hannog yn frwd i ymateb.

17. Ond dydy hynny ddim yn golygu fod y Gyfraith bellach yn ddiwerth. Bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu cyn i'r manylyn lleia o'r Gyfraith golli ei rym.

18. “Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig er mwyn priodi rhywun arall mae'n godinebu. Hefyd, mae'r dyn sy'n priodi'r wraig sydd wedi ei hysgaru yn godinebu.”

Y dyn cyfoethog a Lasarus

19. “Roedd rhyw ddyn cyfoethog oedd bob amser yn gwisgo'r dillad mwya crand ac yn byw yn foethus.

20. Y tu allan i'w dŷ roedd dyn tlawd o'r enw Lasarus yn cael ei adael i gardota; dyn oedd â briwiau dros ei gorff i gyd.

21. Dyna lle roedd, yn disgwyl am unrhyw sbarion bwyd oedd yn cael eu taflu gan y dyn cyfoethog! Byddai cŵn yn dod ato ac yn llyfu'r briwiau agored ar ei gorff.

22. “Un diwrnod dyma'r cardotyn yn marw, a daeth yr angylion i'w gario i'r nefoedd at Abraham. Ond pan fuodd y dyn cyfoethog farw, a chael ei gladdu,

23. aeth i uffern. Yno roedd yn dioddef yn ofnadwy, ac yn y pellter roedd yn gweld Abraham gyda Lasarus.

24. Gwaeddodd arno, ‘Fy nhad Abraham, plîs helpa fi! Anfon Lasarus yma i roi blaen ei fys mewn dŵr a'i roi ar fy nhafod i'w hoeri. Dw i mewn poen ofnadwy yn y tân yma!’

25. “Ond dyma Abraham yn ei ateb, ‘Fy mab, roedd gen ti bopeth roeddet ti eisiau ar y ddaear, ond doedd gan Lasarus ddim byd. Bellach mae e yma'n cael ei gysuro, a tithau'n cael dy arteithio.

26. A beth bynnag mae'r hyn rwyt yn ei ofyn yn amhosib, achos mae yna agendor enfawr yn ein gwahanu ni. Does neb yn gallu croesi oddi yma atat ti, a does neb yn gallu dod drosodd o lle rwyt ti aton ni chwaith.’

27. “Felly dyma'r dyn cyfoethog yn dweud, ‘Os felly dw i'n ymbil arnat ti, plîs wnei di anfon Lasarus i rybuddio fy nheulu i.

28. Mae gen i bum brawd, a fyddwn i ddim am iddyn nhw ddod i'r lle ofnadwy yma pan fyddan nhw farw.’

29. “Ond atebodd Abraham, ‘Mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi yn eu rhybuddio nhw. Does ond rhaid iddyn nhw wrando ar y rheiny.’

30. “‘Na, fy nhad,’ meddai'r dyn cyfoethog. ‘Petai rhywun sydd wedi marw yn cael ei anfon atyn nhw, bydden nhw'n troi cefn ar eu pechod.’

31. “Ond meddai Abraham, ‘Os dydyn nhw ddim yn gwrando ar Moses a'r Proffwydi, fyddan nhw ddim yn gwrando chwaith os bydd rhywun yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.’”