Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 3 beibl.net 2015 (BNET)

Ioan Fedyddiwr yn paratoi'r ffordd

1-2. Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra roedd yn byw yn yr anialwch, cafodd Ioan, mab Sachareias, neges gan Dduw. Erbyn hynny roedd Tiberiws Cesar wedi bod yn teyrnasu ers pymtheng mlynedd; Pontius Peilat oedd llywodraethwr Jwdea, Herod yn is-lywodraethwr ar Galilea, ei frawd Philip ar Itwrea a Trachonitis, a Lysanias ar Abilene; ac roedd Annas a Caiaffas yn archoffeiriaid.

3. Teithiodd Ioan drwy'r ardal o gwmpas Afon Iorddonen, yn cyhoeddi bod rhaid i bobl gael eu bedyddio, fel arwydd eu bod nhw'n troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw.

4. Roedd yn union fel mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!

5. Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y ffyrdd troellog yn cael eu gwneud yn syth, a'r lonydd anwastad yn cael eu gwneud yn llyfn.

6. Bydd y ddynoliaeth gyfan yn gweld Duw yn achub.’”

7. Roedd Ioan yn dweud yn blaen wrth y tyrfaoedd oedd yn mynd allan ato i gael eu bedyddio ganddo: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod?

8. Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod wedi newid go iawn. A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud, ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!

9. Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri'r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i thaflu i'r tân!”

10. “Felly, beth ddylen ni ei wneud?” gofynnodd y dyrfa.

11. Atebodd Ioan, “Os oes gynnoch chi ddwy gôt, rhowch un ohonyn nhw i berson tlawd sydd heb un o gwbl. A gwnewch yr un fath gyda bwyd.”

12. Roedd rhai oedd yn casglu trethi i'r Rhufeiniaid yn dod i gael eu bedyddio hefyd, a dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud, athro?”

13. “Peidio casglu mwy o arian nag y dylech chi,” meddai wrthyn nhw.

14. “A beth ddylen ni ei wneud?” meddai rhyw filwyr ddaeth ato.“Peidiwch dwyn arian oddi ar bobl”, oedd ateb Ioan iddyn nhw, “a pheidiwch cyhuddo pobl ar gam er mwyn gwneud arian. Byddwch yn fodlon ar eich cyflog.”

15. Roedd pobl yn teimlo fod rhywbeth mawr ar fin digwydd, a phawb yn dechrau meddwl tybed ai Ioan oedd y Meseia.

16. Ond ateb Ioan iddyn nhw i gyd oedd, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i'ch bedyddio chi. Ond mae un llawer mwy grymus na fi yn dod yn fuan – rhywun sydd mor bwysig, fyddwn i ddim yn deilwng o fod yn gaethwas sy'n datod carrai ei sandalau hyd yn oed! Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân a gyda thân.

17. Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu'r grawn a'r us. Bydd yn clirio'r llawr dyrnu, yn casglu'r gwenith i'w ysgubor ac yn llosgi'r us mewn tân sydd byth yn diffodd.”

18. Roedd Ioan yn dweud llawer o bethau eraill tebyg wrth annog y bobl a chyhoeddi'r newyddion da iddyn nhw.

19. Ond yna dyma Ioan yn ceryddu Herod, y llywodraethwr, yn gyhoeddus. Ei geryddu am ei berthynas gyda Herodias, gwraig ei frawd, ac am lawer o bethau drwg eraill roedd wedi eu gwneud.

20. A'r canlyniad oedd i Herod ychwanegu at weddill y drygioni a wnaeth drwy roi Ioan yn y carchar.

Hanes bedydd Iesu

21. Pan oedd Ioan wrthi'n bedyddio'r bobl i gyd, dyma Iesu'n dod i gael ei fedyddio hefyd. Wrth iddo weddïo, dyma'r awyr yn rhwygo'n agored

22. a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno – ar ffurf colomen. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.”

Llinach Iesu

23. Roedd Iesu tua tri deg mlwydd oed pan ddechreuodd deithio o gwmpas yn dysgu'r bobl a iacháu. Roedd pawb yn cymryd ei fod yn fab i Joseff, oedd yn fab i Eli,

24. mab Mathat, mab Lefi, mab Melci, mab Janai, mab Joseff,

25. mab Matathïas, mab Amos, mab Nahum, mab Esli, mab Nagai,

26. mab Maath, mab Matathïas, mab Semein, mab Josech, mab Joda,

27. mab Joanan, mab Rhesa, mab Sorobabel, mab Shealtiel, mab Neri,

28. mab Melci, mab Adi, mab Cosam, mab Elmadam, mab Er,

29. mab Josua, mab Elieser, mab Jorim, mab Mathat, mab Lefi,

30. mab Simeon, mab Jwda, mab Joseff, mab Jonam, mab Eliacim,

31. mab Melea, mab Menna, mab Matatha, mab Nathan, mab Dafydd,

32. mab Jesse, mab Obed, mab Boas, mab Salmon, mab Nahson,

33. mab Aminadab, mab Admin, mab Ram, mab Hesron, mab Peres, mab Jwda,

34. mab Jacob, mab Isaac, mab Abraham, mab Tera, mab Nachor,

35. mab Serwg, mab Reu, mab Peleg, mab Eber, mab Sela,

36. mab Cenan, mab Arffacsad, mab Shem, mab Noa, mab Lamech,

37. mab Methwsela, mab Enoch, mab Jared, mab Mahalal-el, mab Cenan,

38. mab Enosh, mab Seth, mab Adda, mab Duw.