Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6 beibl.net 2015 (BNET)

Arglwydd y Saboth

1. Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd, eu rhwbio yn eu dwylo a'u bwyta.

2. Gofynnodd rhai o'r Phariseaid, “Pam dych chi'n torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?”

3. Atebodd Iesu, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i ddilynwyr yn llwgu?

4. Aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.”

5. Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”

Y dyn â'r llaw ddiffrwyth

6. Ar ryw Saboth arall, roedd Iesu'n dysgu yn y synagog, ac roedd yno ddyn oedd â'i law dde yn ddiffrwyth.

7. Roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wylio'n ofalus – oedd e'n mynd i iacháu'r dyn yma ar y Saboth? Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.

8. Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw, a galwodd y dyn ato, “Tyrd yma i sefyll o flaen pawb.” Felly cododd ar ei draed a sefyll lle gallai pawb ei weld.

9. “Gadewch i mi ofyn i chi,” meddai Iesu wrth y rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ddinistrio bywyd?”

10. Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un, ac yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Gwnaeth hynny a chafodd y llaw ei gwella'n llwyr.

11. Roedden nhw'n wyllt gynddeiriog, a dyma nhw'n dechrau trafod gyda'i gilydd pa ddrwg y gallen nhw ei wneud i Iesu.

Y Deuddeg Cynrychiolydd

12. Rhyw ddiwrnod aeth Iesu i ben mynydd i weddïo, a buodd wrthi drwy'r nos yn gweddïo ar Dduw.

13. Pan ddaeth hi'n fore, galwodd ei ddisgyblion ato a dewis deuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol:

14. Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr), Andreas (brawd Pedr) Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus,

15. Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon (oedd yn cael ei alw ‛y Selot‛),

16. Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot a drodd yn fradwr.

Iesu'n dysgu a iacháu

17. Yna aeth i lawr i le gwastad. Roedd tyrfa fawr o'i ddilynwyr gydag e, a nifer fawr o bobl eraill o bob rhan o Jwdea, ac o Jerwsalem a hefyd o arfordir Tyrus a Sidon yn y gogledd.

18. Roedden nhw wedi dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu. Cafodd y rhai oedd yn cael eu poeni gan ysbrydion drwg eu gwella,

19. ac roedd pawb yn ceisio'i gyffwrdd am fod nerth yn llifo ohono ac yn eu gwella nhw i gyd.

Bendithion a Melltithion

20. Yna trodd Iesu at ei ddisgyblion, a dweud:“Dych chi sy'n dlawd wedi'ch bendithio'n fawr,oherwydd mae Duw yn teyrnasu yn eich bywydau.

21. Dych chi sy'n llwgu ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr,oherwydd cewch chi wledd fydd yn eich bodloni'n llwyr ryw ddydd.Dych chi sy'n crïo ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr,oherwydd cewch chwerthin yn llawen ryw ddydd.

22. Dych chi wedi'ch bendithio'n fawr pan fydd pobl yn eich casáua'ch cau allan a'ch sarhau, a'ch enwau'n cael eu pardduoam eich bod yn perthyn i mi, Mab y Dyn.

23. “Felly byddwch yn llawen pan mae'r pethau yma'n digwydd! Neidiwch o lawenydd! Achos mae gwobr fawr i chi yn y nefoedd. Cofiwch mai dyna'n union sut roedd hynafiaid y bobl yma yn trin y proffwydi.

24. Ond gwae chi sy'n gyfoethog,oherwydd dych chi eisoes wedi cael eich bywyd braf.

25. Gwae chi sydd â hen ddigon i'w fwyta,oherwydd daw'r dydd pan fyddwch chi'n llwgu.Gwae chi sy'n chwerthin yn ddi-hid ar hyn o bryd,oherwydd byddwch yn galaru ac yn crïo.

26. Gwae chi sy'n cael eich canmol gan bawb,oherwydd dyna roedd hynafiaid y bobl yma'n ei wneud i'r proffwydi ffug.

Caru Gelynion

27. “Dw i'n dweud wrthoch chi sy'n gwrando: Carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r bobl sy'n eich casáu chi,

28. bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio chi, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin chi.

29. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar un foch, tro'r foch arall ato. Os ydy rhywun yn dwyn dy gôt, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd.

30. Rho i bawb sy'n gofyn am rywbeth gen ti, ac os bydd rhywun yn cymryd rhywbeth piau ti, paid â'i hawlio yn ôl.

31. Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich trin chi.

32. “Pam dylech chi gael eich canmol am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny!

33. Neu am wneud ffafr i'r rhai sy'n gwneud ffafr i chi? Mae ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny hefyd!

34. Neu os dych chi'n benthyg i'r bobl hynny sy'n gallu'ch talu chi'n ôl, beth wedyn? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn fodlon benthyg i'w pobl eu hunain – ac yn disgwyl cael eu talu yn ôl yn llawn!

35. Carwch chi eich gelynion. Gwnewch ddaioni iddyn nhw. Rhowch fenthyg iddyn nhw heb ddisgwyl cael dim byd yn ôl. Cewch chi wobr fawr am wneud hynny. Bydd hi'n amlwg eich bod yn blant i'r Duw Goruchaf, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud – mae'n garedig i bobl anniolchgar a drwg.

36. Rhaid i chi fod yn garedig, fel mae Duw eich tad yn garedig.

Beirniadu pobl eraill

37. “Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo'ch barnu chi. Peidiwch eu condemnio nhw, a chewch chi mo'ch condemnio. Os gwnewch faddau i bobl eraill cewch chi faddeuant.

38. Os gwnewch roi, byddwch yn derbyn. Cewch lawer iawn mwy yn ôl – wedi ei wasgu i lawr, a'i ysgwyd i wneud lle i fwy! Bydd yn gorlifo! Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio i roi fydd yn cael ei ddefnyddio i roi'n ôl i chi.”

39. Yna dyma Iesu'n dyfynnu'r hen ddywediad: “‘Ydy dyn dall yn gallu arwain dyn dall arall?’ Nac ydy wrth gwrs! Bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd!

40. Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro – ond ar ôl cael ei hyfforddi'n llawn mae'n dod yn debyg i'w athro.

41. “Pam rwyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad di dy hun!?

42. Sut alli di ddweud, ‘Gyfaill, gad i mi dynnu'r sbecyn yna sydd yn dy lygad di,’ pan wyt ti'n methu'n lân â gweld dim am fod trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall.

Coeden a'i ffrwyth

43. “Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael.

44. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. Dydy ffigys ddim yn tyfu ar ddrain, na grawnwin ar fieri.

45. Mae pobl dda yn gwneud y daioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau, a phobl ddrwg yn gwneud y drygioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau nhw. Mae beth mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sydd yn eu calonnau nhw.

Yr adeiladwr call a'r adeiladwr twp

46. “Pam dych chi'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd‛ ac eto ddim yn gwneud beth dw i'n ei ddweud?

47. Gwna i ddangos i chi sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dw i'n ei ddweud.

48. Maen nhw fel dyn sy'n mynd ati i adeiladu tŷ ac yn tyllu'n ddwfn i wneud yn siŵr fod y sylfeini ar graig solet. Pan ddaw llifogydd, a llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn sefyll am ei fod wedi ei adeiladu'n dda.

49. Ond mae'r rhai sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ei ddweud yn debyg i ddyn sy'n adeiladu tŷ heb osod sylfaen gadarn iddo. Pan fydd llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn syrthio'n syth ac yn cael ei ddinistrio'n llwyr.”