Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau 5 beibl.net 2015 (BNET)

Ananias a Saffeira

1. Roedd dyn arall o'r enw Ananias, a'i wraig Saffeira, wedi gwerthu peth o'u heiddo.

2. Ond dyma Ananias yn cadw peth o'r arian iddo'i hun a mynd â'r gweddill i'r apostolion gan honni mai dyna'r cwbl oedd wedi ei gael. Roedd e a'i wraig wedi cytuno mai dyna fydden nhw'n ei wneud.

3. Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, “Ananias, pam rwyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân trwy gadw peth o'r arian gest ti am y tir i ti dy hun!

4. Ti oedd biau'r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â'r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!”

5. Pan glywodd Ananias yr hyn ddwedodd Pedr, syrthiodd yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb glywodd beth ddigwyddodd wedi dychryn am eu bywydau.

6. Yna daeth dynion ifanc a lapio'r corff cyn ei gario allan i'w gladdu.

7. Rhyw dair awr yn ddiweddarach dyma'i wraig yn dod i'r golwg. Doedd hi'n gwybod dim byd am yr hyn roedd wedi digwydd.

8. Felly, dyma Pedr yn gofyn iddi, “Dywed wrtho i, ai dyma faint o arian gest ti ac Ananias am y tir wnaethoch chi ei werthu?”“Ie,” meddai hi, “dyna'n union faint gawson ni.”

9. Ac meddai Pedr, “Beth wnaeth i'r ddau ohonoch chi gytuno i roi Ysbryd yr Arglwydd ar brawf? Gwranda! Mae'r dynion ifanc wnaeth gladdu dy ŵr di tu allan i'r drws, a byddan nhw'n dy gario di allan yr un fath.”

10. A dyma hithau yn disgyn ar lawr yn farw yn y fan a'r lle. Daeth y dynion ifanc i mewn, gweld ei bod hi'n farw, a'i chario hithau allan i'w chladdu wrth ymyl ei gŵr.

11. Roedd yr eglwys i gyd, a phawb arall glywodd am y peth, wedi dychryn am eu bywydau.

Yr apostolion yn iacháu llawer o bobl

12. Roedd yr apostolion yn gwneud llawer o wyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl – gwyrthiau oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Byddai'r credinwyr i gyd yn cyfarfod gyda'i gilydd yng Nghyntedd Colofnog Solomon yn y deml.

13. Fyddai neb arall yn meiddio ymuno gyda nhw, er bod gan bobl barch mawr tuag atyn nhw.

14. Ac eto roedd mwy a mwy o bobl yn dod i gredu yn yr Arglwydd – yn ddynion a merched.

15. Roedd pobl yn dod â'r cleifion allan i'r stryd ar welyau a matresi yn y gobaith y byddai o leia cysgod Pedr yn disgyn ar rai ohonyn nhw wrth iddo gerdded heibio.

16. Roedd tyrfaoedd hefyd yn dod o'r trefi o gwmpas Jerwsalem gyda phobl oedd yn sâl neu'n cael eu poenydio gan ysbrydion drwg, ac roedd pob un ohonyn nhw yn cael eu hiacháu.

Yr apostolion yn cael eu herlid

17. Roedd yr Archoffeiriad a'i gyd-Sadwceaid yn genfigennus.

18. Felly dyma nhw'n arestio'r apostolion a'u rhoi yn y carchar.

19. Ond yn ystod y nos dyma angel yr Arglwydd yn dod ac yn agor drysau'r carchar a'u gollwng yn rhydd. Dwedodd wrthyn nhw,

20. “Ewch i'r deml, sefyll yno a dweud wrth bobl am y bywyd newydd yma.”

21. Felly ar doriad gwawr dyma nhw'n mynd i'r deml a gwneud beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw, a dechrau dysgu'r bobl. Pan gyrhaeddodd yr archoffeiriad a'i swyddogion ar gyfer y cyfarfod o'r Sanhedrin – sef cyfarfod llawn o arweinwyr Israel – dyma nhw'n anfon dynion i nôl yr apostolion o'r carchar.

22. Ond pan gyrhaeddodd rheiny'r celloedd, doedd yr apostolion ddim yno! Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y Sanhedrin a dweud,

23. “Pan aethon ni i'r carchar roedd wedi ei gloi yn ddiogel, ac roedd swyddogion yno yn gwarchod y drysau; ond pan agoron nhw'r gell i ni, doedd neb i mewn yno!”

24. Pan glywodd y prif offeiriaid a phennaeth gwarchodlu'r deml hyn, roedden nhw wedi drysu'n lân, ac yn meddwl “Beth nesa!”

25. Dyna pryd daeth rhywun i mewn a dweud, “Dych chi'n gwybod beth! – mae'r dynion wnaethoch chi eu rhoi yn y carchar yn sefyll yn y deml yn dysgu'r bobl!”

26. Felly dyma'r capten a'i swyddogion yn mynd i arestio'r apostolion eto, ond heb ddefnyddio trais. Roedd ganddyn nhw ofn i'r bobl gynhyrfu a dechrau taflu cerrig atyn nhw a'u lladd.

27. Dyma nhw'n dod â'r apostolion o flaen y Sanhedrin i gael eu croesholi gan yr archoffeiriad.

28. “Cawsoch chi orchymyn clir i beidio sôn am y dyn yna,” meddai, “ond dych chi wedi bod yn dweud wrth bawb yn Jerwsalem amdano, ac yn rhoi'r bai arnon ni am ei ladd!”

29. Atebodd Pedr a'r apostolion eraill: “Mae'n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi!

30. Duw ein cyndeidiau ni ddaeth â Iesu yn ôl yn fyw ar ôl i chi ei ladd drwy ei hoelio ar bren!

31. Ac mae Duw wedi ei osod i eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd. Iesu ydy'r Tywysog a'r Achubwr sy'n rhoi cyfle i Israel droi'n ôl at Dduw a chael eu pechodau wedi eu maddau.

32. Dŷn ni'n gwybod fod hyn i gyd yn wir, ac mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio i'r ffaith gyda ni. Dyma'r Ysbryd mae Duw yn ei roi i bawb sy'n ufuddhau iddo.”

33. Pan glywon nhw beth ddwedodd yr apostolion roedden nhw'n gynddeiriog. Roedden nhw eisiau eu lladd nhw!

34. Ond dyma Pharisead o'r enw Gamaliel yn sefyll ar ei draed (Roedd Gamaliel yn arbenigwr yn y Gyfraith, ac yn ddyn oedd gan bawb barch mawr ato). Rhoddodd orchymyn i'r apostolion gael eu cymryd allan o'r cyfarfod am ychydig,

35. ac yna dwedodd hyn: “Ddynion. Arweinwyr Israel. Rhaid meddwl yn ofalus cyn penderfynu beth i'w wneud â'r dynion yma.

36. Ydych chi'n cofio Theudas? Cododd hwnnw beth amser yn ôl, yn honni ei fod yn arweinydd mawr. Roedd tua pedwar cant o ddynion yn ei ddilyn, ond cafodd ei ladd a cafodd ei ddilynwyr eu gwasgaru. Wnaeth dim byd ddod o'r peth.

37. Wedyn, cawsoch chi Jwdas y Galilead yn arwain gwrthryfel adeg y cyfrifiad. Cafodd yntau ei ladd, a cafodd ei ddilynwyr e eu gyrru ar chwâl.

38. Felly, dyma fyddwn i yn ei gynghori yn yr achos sydd o'n blaenau ni: Peidiwch gwneud dim gyda nhw. Gadewch lonydd iddyn nhw. Chwalu wnân nhw os mai dim ond syniadau pobl sydd y tu ôl i'r cwbl.

39. Ond os oes gan Dduw rywbeth i'w wneud a'r peth, wnewch chi byth eu stopio nhw; a chewch eich hunain yn brwydro yn erbyn Duw.”

40. Llwyddodd Gamaliel i'w perswadio nhw. Felly dyma nhw'n galw'r apostolion yn ôl i mewn ac yn gorchymyn iddyn nhw gael eu curo. Ar ôl eu rhybuddio nhw eto i beidio sôn am Iesu, dyma nhw'n eu gollwng yn rhydd.

41. Roedd yr apostolion yn llawen wrth adael y Sanhedrin. Roedden nhw'n ei chyfri hi'n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu.

42. Bob dydd, yn y deml ac yn eu tai, roedden nhw'n dal ati i ddysgu'r bobl a chyhoeddi'r newyddion da mai Iesu ydy'r Meseia.