Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau 14 beibl.net 2015 (BNET)

Yn Iconium

1. Digwyddodd yr un peth yn Iconium. Aeth Paul a Barnabas i'r synagog Iddewig, a siarad mor dda nes bod nifer fawr o Iddewon a phobl o genhedloedd eraill wedi credu.

2. Ond dyma'r Iddewon oedd yn gwrthod credu yn codi twrw ymhlith pobl y cenhedloedd a'u troi nhw'n hollol yn erbyn y brodyr.

3. Arhosodd Paul a Barnabas yno am amser hir, yn dal ati i siarad yn gwbl ddi-ofn am yr Arglwydd. Ac roedd yr Arglwydd yn profi fod y neges am ei ddaioni yn wir drwy roi'r gallu iddyn nhw wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos ei fod e gyda nhw.

4. Roedd pobl y ddinas wedi eu rhannu; rhai yn ochri gyda'r Iddewon, a'r lleill o blaid yr apostolion.

5. Dyma rai o bobl y cenhedloedd, gyda'r Iddewon a'u harweinwyr, yn cynllwyn i ymosod ar Paul a Barnabas a'u lladd drwy daflu cerrig atyn nhw.

6. Ond clywon nhw beth oedd ar y gweill, a dianc i'r ardal o gwmpas Lystra a Derbe yn Lycaonia.

7. A dyma nhw'n mynd ati i gyhoeddi'r newyddion da yno.

Yn Lystra a Derbe

8. Yn Lystra dyma nhw'n dod ar draws rhyw ddyn oedd ag anabledd yn ei draed; roedd wedi ei eni felly ac erioed wedi gallu cerdded.

9. Roedd yn gwrando ar Paul yn siarad. Roedd Paul yn edrych arno, a gwelodd fod gan y dyn ffydd y gallai gael ei iacháu.

10. Meddai wrtho yng nghlyw pawb, “Saf ar dy draed!”, a dyma'r dyn yn neidio ar ei draed yn y fan a'r lle ac yn dechrau cerdded.

11. Pan welodd y dyrfa beth wnaeth Paul, dyma nhw'n dechrau gweiddi yn iaith Lycaonia, “Mae'r duwiau wedi dod i lawr aton ni fel dynion!”

12. Dyma nhw'n penderfynu mai y duw Zews oedd Barnabas, ac mai Hermes oedd Paul (gan mai fe oedd yn gwneud y siarad).

13. Dyma offeiriad o deml Zews, oedd ychydig y tu allan i'r ddinas, yn dod â theirw a thorchau o flodau at giatiau'r ddinas, gyda'r bwriad o gyflwyno aberthau iddyn nhw.

14. Ond pan ddeallodd y ddau beth oedd yn mynd ymlaen, dyma nhw'n rhwygo eu dillad ac yn rhuthro allan i ganol y dyrfa, yn gweiddi:

15. “Na! Na! Ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn? Pobl gyffredin fel chi ydyn ni! Dŷn ni wedi dod â newyddion da i chi! Rhaid i chi droi cefn ar y pethau diwerth yma, a chredu yn y Duw byw. Dyma'r Duw wnaeth greu popeth – yr awyr a'r ddaear a'r môr a'r cwbl sydd ynddyn nhw!

16. Yn y gorffennol gadawodd i'r cenhedloedd fynd eu ffordd eu hunain,

17. ond mae digonedd o dystiolaeth o'i ddaioni o'ch cwmpas chi: mae'n rhoi glaw ac yn gwneud i gnydau dyfu yn eu tymor – i chi gael digon o fwyd, ac i'ch bywydau fod yn llawn o lawenydd.”

18. Ond cafodd Paul a Barnabas drafferth ofnadwy i rwystro'r dyrfa rhag aberthu iddyn nhw hyd yn oed ar ôl dweud hyn i gyd.

19. Ond wedyn dyma Iddewon o Antiochia ac Iconium yn cyrraedd yno a llwyddo i droi'r dyrfa yn eu herbyn. A dyma nhw'n dechrau taflu cerrig at Paul a'i lusgo allan o'r dref, gan dybio ei fod wedi marw.

20. Ond ar ôl i'r credinwyr yno gasglu o'i gwmpas, cododd ar ei draed a mynd yn ôl i mewn i'r dref. Y diwrnod wedyn aeth yn ei flaen gyda Barnabas i Derbe.

21. Buon nhw'n cyhoeddi'r newyddion da yno, a daeth nifer fawr o bobl yn ddisgyblion i Iesu y Meseia.Ar ôl hynny dyma nhw'n mynd yn ôl i Lystra, Iconium ac Antiochia Pisidia.

Y daith yn ôl i Antiochia yn Syria

22. Dyma nhw'n cryfhau ffydd y disgyblion a'u hannog i aros yn ffyddlon. “Rhaid gadael i Dduw deyrnasu yn ein bywydau i ni allu wynebu'r holl drafferthion,” medden nhw.

23. Peth arall wnaeth Paul a Barnabas oedd penodi grŵp o arweinwyr ym mhob eglwys. Ar ôl ymprydio a gweddïo dyma nhw'n eu gadael yng ngofal yr Arglwydd roedden nhw wedi credu ynddo.

24. Wedyn dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i Pisidia ac yna i Pamffilia,

25. ac ar ôl pregethu'r newyddion da yn Perga mynd yn eu blaenau i Atalia.

26. Wedyn hwylio o Atalia yn ôl i Antiochia Syria. (Dyna lle gwnaethon nhw gael eu cyflwyno i ofal Duw i wneud y gwaith roedden nhw bellach wedi ei orffen.)

27. Yno dyma nhw'n galw'r eglwys at ei gilydd a dweud am y cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw, a sut oedd wedi rhoi'r cyfle i bobl o genhedloedd eraill ddod i gredu.

28. Wedyn dyma nhw'n aros gyda'r Cristnogion yn Antiochia am amser hir.