Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau 15 beibl.net 2015 (BNET)

Y Cyngor yn Jerwsalem

1. Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth rhyw ddynion o Jwdea a dechrau dysgu hyn i'r credinwyr yn Antiochia: “Allwch chi ddim cael eich achub heb gadw'r ddefod Iddewig o enwaedu dynion fel gwnaeth Moses ddysgu.”

2. Achosodd hyn ddadlau a thaeru ffyrnig rhyngddyn nhw a Paul a Barnabas. Felly dyma'r eglwys yn dewis Paul a Barnabas gydag eraill i fynd i Jerwsalem i drafod y mater gyda'r apostolion a'r arweinwyr yno.

3. Ar eu ffordd yno dyma nhw'n galw heibio'r credinwyr yn Phenicia a Samaria, a dweud wrthyn nhw am y bobl o genhedloedd eraill oedd wedi cael tröedigaeth. Roedd y credinwyr wrth eu boddau o glywed yr hanes.

4. Pan gyrhaeddon nhw Jerwsalem cawson nhw groeso mawr gan yr eglwys a gan yr apostolion a'r arweinwyr eraill yno. A dyma nhw'n adrodd hanes y cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw.

5. Ond dyma rai o'r Phariseaid oedd wedi dod i gredu yn sefyll ar eu traed a dadlau fod rhaid i bobl o genhedloedd eraill sy'n dod i gredu ufuddhau i Gyfraith Moses a chadw'r ddefod o enwaedu.

6. Dyma'r apostolion ac arweinwyr eraill yr eglwys yn cyfarfod i ystyried y cwestiwn.

7. Ar ôl lot o ddadlau brwd dyma Pedr yn codi ar ei draed, a dweud: “Frodyr. Beth amser yn ôl dych chi'n cofio fod Duw wedi fy newis i rannu'r newyddion da gyda phobl o genhedloedd eraill, a'u cael nhw i gredu.

8. Mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pobl, a dangosodd yn glir ei fod yn eu derbyn nhw drwy roi'r Ysbryd Glân iddyn nhw yn union fel y cafodd ei roi i ni.

9. Doedd Duw ddim yn gwahaniaethu rhyngon ni a nhw, am ei fod wedi puro eu calonnau nhw hefyd wrth iddyn nhw gredu.

10. Felly pam dych chi'n amau beth mae Duw wedi ei wneud, drwy fynnu fod y disgyblion yma'n cario beichiau roedden ni a'n hynafiaid yn methu eu cario?

11. Dŷn ni'n credu'n hollol groes! – mai dim ond ffafr a haelioni'r Arglwydd Iesu sy'n ein hachub ni fel hwythau!”

12. Doedd gan neb ddim byd arall i'w ddweud, a dyma nhw'n gwrando ar Barnabas a Paul yn dweud am yr arwyddion gwyrthiol a'r pethau rhyfeddol eraill roedd Duw wedi eu gwneud trwyddyn nhw pan oedden nhw gyda phobl o genhedloedd eraill.

13. Ar ôl iddyn nhw orffen siarad dyma Iago'n dweud: “Gwrandwch, frodyr.

14. Mae Simon wedi disgrifio sut dewisodd Duw bobl iddo'i hun o genhedloedd eraill am y tro cyntaf.

15. Ac mae beth ddwedodd y proffwydi yn cadarnhau hynny, er enghraifft:

16. ‘Bydda i'n dod nôl wedi hyn i ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i'n adeiladu ei adfeilion, a'i adfer,

17. er mwyn i weddill y ddynoliaeth geisio'r Arglwydd, a'r holl wledydd eraill sy'n perthyn i mi.’ Mae'r Arglwydd wedi gwneud y pethau yma

18. yn hysbys ers oesoedd maith.

19. “Felly, yn fy marn i, ddylen ni ddim gwneud pethau'n anodd i'r bobl o genhedloedd eraill sy'n troi at Dduw.

20. Yn lle hynny, gadewch i ni ysgrifennu atyn nhw, a gofyn iddyn nhw beidio bwyta bwyd sydd wedi ei lygru gan eilun-dduwiau, cadw draw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol, a pheidio bwyta cig anifeiliaid sydd wedi eu tagu nac unrhyw beth â gwaed ynddo.

21. Mae yna rai ym mhob dinas sydd wedi bod yn pregethu beth ddysgodd Moses ers amser maith, ac mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen yn y synagogau bob Saboth.”

Llythyr y Cyngor at Gredinwyr o Genhedloedd eraill

22. Dyma'r apostolion, gyda'r eglwys gyfan a'i harweinwyr, yn penderfynu dewis dynion i fynd i Antiochia yn Syria gyda Paul a Barnabas. Dau o'r arweinwyr gafodd eu dewis, sef Jwdas (sy'n cael ei alw'n Barsabas) a Silas.

23. Ac roedden nhw i fynd â'r llythyr yma gyda nhw:Llythyr oddi wrth y brodyr yn Jerwsalem, sef apostolion ac arweinwyr yr eglwys.At ein brodyr a'n chwiorydd o genhedloedd eraill yn Antiochia, Syria a Cilicia:Cyfarchion!

24. Dŷn ni wedi clywed fod rhywrai oddi yma wedi bod yn creu helynt acw, ac yn eich drysu a'ch ypsetio chi gyda beth maen nhw'n ei ddysgu. Dim ni wnaeth eu hanfon nhw.

25. Felly dŷn ni wedi cytuno'n unfrydol i anfon dynion atoch chi gyda'n ffrindiau annwyl Barnabas a Paul

26. sydd wedi mentro'u bywydau dros ein Harglwydd Iesu Grist.

27. Bydd Jwdas a Silas yn cadarnhau ar lafar beth dŷn ni wedi ei roi yn y llythyr yma.

28. Mae'r Ysbryd Glân wedi dangos i ni, a ninnau wedi penderfynu na ddylen ni ofyn mwy na hyn gynnoch chi:

29. Eich bod i beidio bwyta unrhyw beth sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig unrhyw anifail sydd wedi ei dagu. Hefyd, eich bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol. Byddai'n beth da i chi osgoi y pethau yma.Pob hwyl i chi!

30. Felly dyma Paul a Barnabas, Jwdas a Silas yn cael eu hanfon ar eu ffordd, ac yn cyrraedd Antiochia yn Syria. Yno dyma nhw'n casglu pawb at ei gilydd ac yn cyflwyno'r llythyr iddyn nhw.

31. Cafodd y llythyr ei ddarllen, ac roedd y bobl yn hapus iawn ac wedi eu calonogi'n fawr gan yr hyn roedd yn ei ddweud.

32. A dyma Jwdas a Silas, oedd yn broffwydi, yn siarad yn hir gyda'r Cristnogion yno, a dweud llawer o bethau i'w hannog a chryfhau eu ffydd.

33. Ar ôl aros yn Antiochia am beth amser, dyma'r ddau yn mynd yn ôl i Jerwsalem at y bobl oedd wedi eu hanfon, a hynny gyda bendith Cristnogion Antiochia.

35. Ond arhosodd Paul a Barnabas i helpu pawb arall oedd yn dysgu ac yn cyhoeddi neges yr Arglwydd yno.

Ail Daith Genhadol Paul

Paul a Barnabas yn cael ffrae

36. Ar ôl i dipyn o amser fynd heibio dyma Paul yn dweud wrth Barnabas, “Gad i ni fynd yn ôl i ymweld â'r credinwyr yn y lleoedd hynny lle buon ni'n cyhoeddi neges yr Arglwydd, i weld sut maen nhw'n dod yn eu blaenau.”

37. Roedd Barnabas am fynd, ond roedd eisiau mynd â Ioan Marc gyda nhw hefyd.

38. Ond roedd Paul yn gwbl benderfynol na ddylai gael mynd, am fod Marc wedi troi ei gefn arnyn nhw yn Pamffilia a heb gario ymlaen gyda nhw yn y gwaith.

39. Aeth hi'n gymaint o ffrae rhyngddyn nhw nes iddyn nhw wahanu. Dyma Barnabas yn hwylio i Cyprus gyda Marc,

40. a Paul yn dewis Silas i fynd gydag e. Ar ôl cael eu cyflwyno i ofal yr Arglwydd gan y credinwyr eraill,

41. dyma nhw'n teithio drwy Syria a Cilicia yn cryfhau'r eglwysi.