6. Ond ar ôl methu dod o hyd iddyn nhw, dyma nhw'n llusgo Jason a rhai o'r Cristnogion eraill o flaen swyddogion y ddinas. Roedden nhw'n gweiddi: “Mae'r dynion sydd wedi bod yn codi twrw ar hyd a lled y byd wedi dod i'n dinas ni,
7. ac mae Jason wedi eu croesawu nhw i'w dŷ! Maen nhw'n herio Cesar, trwy ddweud fod brenin arall o'r enw Iesu!”
8. Roedd y dyrfa a'r swyddogion wedi cyffroi wrth glywed y cyhuddiadau yma.
9. Ond dyma'r swyddogion yn penderfynu rhyddhau Jason a'r lleill ar fechnïaeth.
10. Yn syth ar ôl iddi nosi, dyma'r credinwyr yn anfon Paul a Silas i ffwrdd i Berea. Ar ôl cyrraedd yno dyma nhw'n mynd i'r synagog Iddewig.
11. Roedd pobl Berea yn fwy agored na'r Thesaloniaid. Roedden nhw'n gwrando'n astud ar neges Paul, ac wedyn yn mynd ati i chwilio'r ysgrifau sanctaidd yn ofalus i weld os oedd y pethau roedd e'n ddweud yn wir.
12. Daeth llawer o'r Iddewon i gredu, a nifer o wragedd pwysig o blith y Groegiaid, a dynion hefyd.
13. Ond pan glywodd Iddewon Thesalonica fod Paul yn cyhoeddi neges Duw yn Berea, dyma nhw'n mynd yno i greu helynt a chynhyrfu'r dyrfa.
14. Dyma'r Cristnogion yno yn penderfynu anfon Paul i'r arfordir ar unwaith, ond arhosodd Silas a Timotheus yn Berea.
15. Aeth rhai gyda Paul cyn belled ag Athen, ac yna ei adael a mynd yn ôl i Berea gyda chais ar i Silas a Timotheus fynd ato cyn gynted â roedden nhw'n gallu.
16. Tra roedd Paul yn disgwyl amdanyn nhw yn Athen, roedd wedi cynhyrfu'n lân wrth weld cymaint o eilunod oedd yn y ddinas.
17. Aeth i'r synagog i geisio rhesymu gyda'r Iddewon a'r Groegiaid oedd yn addoli Duw, ond hefyd i sgwâr y farchnad i geisio rhesymu gyda phwy bynnag oedd yn digwydd bod yno.