Dechreuodd dadl rhyngddo â grŵp o athronwyr, rhai yn Epicwreaid ac eraill yn Stoiciaid. “Beth mae'r mwydryn yma'n sôn amdano?” meddai rhai ohonyn nhw. “Sôn am ryw dduwiau tramor mae e,” meddai eraill. (Roedden nhw'n dweud hyn am fod Paul yn cyhoeddi'r newyddion da am Iesu a'r atgyfodiad.)