Ond roedd arweinwyr yr Iddewon yn genfigennus; felly dyma nhw'n casglu criw o ddynion oedd yn loetran yn sgwâr y farchnad a'u cael i ddechrau codi twrw yn y ddinas. Dyma nhw'n mynd i dŷ Jason i chwilio am Paul a Silas er mwyn dod â nhw allan at y dyrfa.