Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 6 beibl.net 2015 (BNET)

Mwy o sylwadau ar fywyd

1. Rhywbeth ofnadwy arall dw i wedi sylwi arno yn y byd, ac mae'n effeithio ar lot o bobl:

2. Mae Duw weithiau yn rhoi cymaint o arian, eiddo a chyfoeth i berson nes bod ganddo bopeth mae arno ei angen a'i eisiau. Ond wedyn dydy Duw ddim yn rhoi'r gallu iddo fwynhau'r cwbl! Yn lle hynny mae rhywun arall yn cael ei fwynhau. Does dim sens i'r peth! Mae'n ofnadwy!

3. Hyd yn oed petai rhywun yn cael cant o blant ac yn byw i oedran mawr – sdim ots faint o flynyddoedd! Gallai fyw am byth! Os nad ydy e'n cael mwynhau ei lwyddiant, mae babi sy'n cael ei eni'n farw yn well ei fyd na rhywun felly!

4. Ac i beth mae hwnnw'n cael ei eni? Mae'n ddiystyr! Mae'n diflannu i'r tywyllwch, a does neb yn gwybod ei enw na dim arall amdano.

5. Dydy e ddim wedi profi gwres yr haul. Ond o leia mae'n cael gorffwys, felly'n well ei fyd na'r person arall!

6. Neu cymrwch fod rhywun yn cael byw am ddwy fil o flynyddoedd ond heb brofi unrhyw lwyddiant materol. Onid i'r un lle maen nhw i gyd yn mynd yn y pen draw?

7. “Mae pawb yn gweithio'n galed i gael bwyd i'w fwyta,ond dydy'r stumog byth yn fodlon.”

8. Felly pa fantais sydd gan rhywun doeth dros y ffŵl? Pa fantais sydd gan rywun tlawd sy'n gwybod sut i fyw mewn perthynas ag eraill?

9. “Mae bod yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chiyn well na breuddwydio am gael mwy o hyd.”Dydy'r pethau yma i gyd yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.

10. Mae popeth sy'n digwydd wedi ei drefnu ymlaen llaw. Mae pobl yn gwybod mai creaduriaid dynol ydyn nhw. All pobl ddim dadlau gyda Duw am eu tynged, gan ei fod e'n llawer cryfach.

11. Dydy dadlau diddiwedd yn helpu dim. Beth sy'n cael ei ennill?

12. Pwy sy'n gwybod beth ydy'r peth gorau i rywun ei wneud gyda'i fywyd? Dim ond am gyfnod byr mae'n cael byw, ac mae ei fywyd llawn cwestiynau yn mynd heibio mewn chwinciad. Oes yna unrhyw un yn rhywle sy'n gallu dweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol?