Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 11 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Bydd yn hael a rhannu dy gynnyrch –ac ymhen amser fe gei dy dalu'n ôl.

2. Rho beth ohono i nifer o wahanol bobl,wyddost ti ddim beth all fynd o'i le yn dy fywyd.”

3. Pan mae'r cymylau'n dduon,byddan nhw'n tywallt glaw ar y ddaear.Sdim ots i ba gyfeiriad mae coeden yn syrthio,bydd yn aros lle syrthiodd.

4. Fydd ffermwr sy'n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau,a'r un sy'n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.

5. Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywydyn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam,alli di ddim rhagweld beth fydd Duw'n ei wneud,a fe sydd wedi creu popeth.

6. Hau dy had yn y bore,a phaid segura gyda'r nos;wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo –y naill neu'r llall, neu'r ddau fel ei gilydd.

Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd

7. “Mae golau bywyd mor felys,ac mae'n hyfryd cael gweld yr haul!”

8. Os ydy rhywun yn cael oes hir,dylai fwynhau'r blynyddoedd i gyd,ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach.Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch!

Cyngor i bobl ifanc fod yn ddoeth

9. Ti'n ifanc! Mwynha dy huntra mae gen ti gyfle!Cei ddigon o hwyl a sbripan wyt ti'n ifanc.Gwna be fynni di,beth bynnag sy'n cymryd dy ffansi –ond cofia y bydd Duwyn dy alw i gyfrif am y cwbl.

10. Paid cael dy lethu gan boenau bywyd,a chadwa dy hun yn iach!Dydy ieuenctid a gwallt du ddim yn para'n hir!