Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 1 beibl.net 2015 (BNET)

Cyflwyniad: Mae popeth yn ddiystyr

1. Geiriau yr Athro, mab Dafydd; brenin yn Jerwsalem.

2. Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – dydy e'n gwneud dim sens!Mae'r cwbl yn hollol abswrd!

3. Beth ydy'r pwynt gwneud unrhyw beth?Beth sydd i'w ennill o weithio'n galed yn y byd yma?

4. Mae un genhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod,ond dydy'r byd ddim yn newid o gwbl.

5. Mae'r haul yn codi ac yn machlud,yna rhuthro'n ôl i'r un lle, i godi eto.

6. Mae'r gwynt yn chwythu i'r de,ac yna'n troi i'r gogledd.Mae'n troi ac yn troi, cyn dod yn ôli'r un lle yn y diwedd.

7. Mae'r nentydd i gyd yn llifo i'r môr,ac eto dydy'r môr byth yn llawn;maen nhw'n mynd yn ôli lifo o'r un lle eto.

8. Mae'r cwbl yn un cylch diddiwedd!Dydy hi ddim posib dweud popeth.Dydy'r llygad byth wedi gweld digon,na'r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon.

9. Fydd dim yn wahanol yn y dyfodol –Yr un pethau fydd yn cael eu gwneud ac o'r blaen;Does dim byd newydd dan yr haul!

10. Weithiau mae pobl yn dweud am rywbeth,“Edrychwch, dyma i chi beth newydd!”Ond mae wedi digwydd o'r blaen, ymhell yn ôl,o flaen ein hamser ni.

11. Does neb yn cofio pawb sydd wedi mynd,a fydd neb yn y dyfodol yn cofio pawbaeth o'u blaenau nhw chwaith.

Yr Athro yn edrych am atebion

12. Roeddwn i, yr Athro, yn frenin ar wlad Israel yn Jerwsalem.

13. Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i astudio ac edrych yn fanwl ar bopeth sy'n digwydd yn y byd. Mae'n waith caled, wedi ei roi gan Dduw i'r ddynoliaeth.

14. Edrychais ar bopeth oedd yn cael ei wneud ar y ddaear, a dod i'r casgliad fod dim atebion slic – mae fel ceisio rheoli'r gwynt:

15. Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi ei blygu,na chyfrif rhywbeth sydd ddim yna!

16. Meddyliais, “Dw i'n fwy llwyddiannus ac yn ddoethach na neb sydd wedi teyrnasu yn Jerwsalem o'm blaen i. Mae gen i ddoethineb a gwybodaeth.”

17. Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i geisio deall gwerth doethineb, a deall pam mae pobl yn gwneud pethau mor hurt a ffôl. Ond dw i wedi dod i'r casgliad ei bod yn dasg amhosib, fel ceisio rheoli'r gwynt:

18. Po fwya'r doethineb, mwya'r dolur;mae gwybod mwy yn arwain i fwy o boen calon.