Bydd pob crochan yn Jerwsalem a Jwda wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Bydd y bobl sy'n dod i aberthu yn gallu eu defnyddio i ferwi cig yr aberthau ynddyn nhw. A bryd hynny fydd dim marchnatwyr yn nheml yr ARGLWYDD holl-bwerus.