Bryd hynny bydd y geiriau “Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD” i'w gweld ar glychau harnais ceffylau. Bydd y crochanau i ferwi cig yn y Deml yr un mor gysegredig â'r powlenni taenellu o flaen yr allor.