Hen Destament

Testament Newydd

Josua 10:27-43 beibl.net 2015 (BNET)

27. Wedi i'r haul fachlud dyma Josua yn gorchymyn i'r cyrff gael eu cymryd i lawr. Yna dyma nhw'n taflu'r cyrff i'r ogof lle roedden nhw wedi bod yn cuddio, a rhoi cerrig mawr dros geg yr ogof – maen nhw'n dal yna hyd heddiw.

28. Y diwrnod hwnnw hefyd dyma Josua yn concro tref Macceda, a lladd y bobl i gyd a'u brenin. Cafodd pawb eu lladd. Doedd dim un person wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.

29. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau i Libna, i ymosod ar y dref honno.

30. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.

31. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau eto i ymosod ar Lachish.

32. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Dyma nhw'n llwyddo i'w choncro ar yr ail ddiwrnod. A dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna.

33. Daeth y brenin Horam o Geser gyda'i fyddin i geisio helpu Lachish, ond dyma Josua yn ei ladd e a'i fyddin hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw.

34. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Lachish i ymosod ar Eglon.

35. Dyma nhw'n concro'r dref y diwrnod hwnnw, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Lachish.

36. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Eglon i ymosod ar Hebron.

37. Dyma nhw'n concro'r dref, lladd ei brenin a phawb oedd yn byw yno, ac yn y pentrefi o'i chwmpas hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Eglon.

38. Yna dyma Josua a byddin Israel yn troi yn ôl i ymosod ar Debir.

39. Dyma nhw'n ei choncro hi a'i brenin a'r pentrefi o'i chwmpas, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd. Doedd neb ar ôl. Cafodd Debir ei dinistrio'n llwyr, a'i brenin ei ladd, fel digwyddodd i Libna a'i brenin, ac i Hebron.

40. Roedd Josua wedi concro'r ardal gyfan – y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir a'r llethrau i'r gorllewin, a'u brenhinoedd i gyd. Doedd neb ar ôl. Cafodd pob enaid byw ei ladd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel wedi gorchymyn.

41. Roedd wedi concro'r ardal gyfan o Cadesh-barnea i Gasa ac o Gosen i Gibeon.

42. Llwyddodd Josua i ddal y brenhinoedd yma i gyd a'i tiroedd, am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd drostyn nhw.

43. Wedyn dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 10