Y diwrnod hwnnw hefyd dyma Josua yn concro tref Macceda, a lladd y bobl i gyd a'u brenin. Cafodd pawb eu lladd. Doedd dim un person wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.