Roedd Josua wedi concro'r ardal gyfan – y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir a'r llethrau i'r gorllewin, a'u brenhinoedd i gyd. Doedd neb ar ôl. Cafodd pob enaid byw ei ladd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel wedi gorchymyn.