Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3 beibl.net 2015 (BNET)

Cerdd 3 – Cosb a Gobaith

1. Dw i yn ddyn sy'n gwybod beth ydy dioddef.Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i.

2. Mae e wedi fy ngyrru i ffwrddi fyw yng nghanol tywyllwch dudew.

3. Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro,yn ddi-stop.

4. Mae wedi curo fy nghorff yn ddim,ac wedi torri fy esgyrn.

5. Mae fel byddin wedi fy amgylchynu,yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw.

6. Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwchfel y rhai sydd wedi marw ers talwm.

7. Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc.Mae'n fy nal i lawr gyda chadwyni trymion.

8. Dw i'n gweiddi'n daer am help,ond dydy e'n cymryd dim sylw.

9. Mae wedi blocio pob ffordd allan;mae pob llwybr fel drysfa!

10. Mae e fel arth neu lewyn barod i ymosod arna i.

11. Llusgodd fi i ffwrdd a'm rhwygo'n ddarnau.Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun.

12. Anelodd ei fwa saeth ata i;fi oedd ei darged.

13. Gollyngodd ei saethaua'm trywanu yn fy mherfedd.

14. Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i'n destun sbort,ac yn fy ngwawdio i ar gân.

15. Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw;mae wedi llenwi fy mol gyda'r wermod.

16. Mae wedi gwneud i mi gnoi graean,ac wedi rhwbio fy ngwyneb yn y baw.

17. Does gen i ddim tawelwch meddwl;dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus.

18. Dywedais, “Alla i ddim cario mlaen.Dw i wedi colli pob gobaith yn yr ARGLWYDD.”

19. Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartreyn brofiad chwerw!

20. Mae ar fy meddwl drwy'r amser,ac mae'n fy ngwneud yn isel fy ysbryd.

21. Ond wedyn dw i'n cofio hyn,a dyma sy'n rhoi gobaith i mi:

22. Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd,a'i garedigrwydd e'n para am byth.

23. Maen nhw'n dod yn newydd bob bore.“ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!”

24. “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i,“felly ynddo fe dw i'n gobeithio.”

25. Mae'r ARGLWYDD yn dda i'r rhai sy'n ei drystio,ac i bwy bynnag sy'n troi ato am help.

26. Mae'n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgari'r ARGLWYDD ddod i'n hachub ni.

27. Mae'n beth da i rywun ddysgu ymostwngtra mae'n dal yn ifanc.

28. Dylai rhywun eistedd yn dawelpan mae'r ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e.

29. Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawryn y gobaith y bydd yr ARGLWYDD yn ymyrryd.

30. Dylai droi'r foch arall i'r sawl sy'n ei daro,a bod yn fodlon cael ei gam-drin a'i enllibio.

31. Fydd yr Arglwydd ddim ynein gwrthod ni am byth.

32. Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio,achos mae ei gariad e mor fawr.

33. Dydy e ddim eisiau gwneud i bobl ddioddefnac achosi poen i bobl.

34. Os ydy carcharorion gwlad yn cael eu sathru,

35. a hawliau dynol yn cael eu diystyru,a hynny o flaen y Duw Goruchaf ei hun;

36. os ydy cwrs cyfiawnder yn cael ei wyrdroi yn y llys– ydy'r Arglwydd ddim yn gweld y cwbl?

37. Pwy sy'n gallu gorchymyn i unrhyw beth ddigwyddheb i'r Arglwydd ei ganiatáu?

38. Onid y Duw Goruchaf sy'n dweud beth sy'n digwydd– p'run ai dinistr neu fendith?

39. Pa hawl sydd gan rywun i gwynopan mae'n cael ei gosbi am ei bechod?

40. Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw,a throi nôl at yr ARGLWYDD.

41. Gadewch i ni droi'n calonnau a chodi'n dwyloat Dduw yn y nefoedd, a chyffesu,

42. “Dŷn ni wedi gwrthryfela'n ddifrifol,a dwyt ti ddim wedi maddau i ni.

43. Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau,gan ladd pobl heb ddangos trugaredd.

44. Ti wedi cuddio dy hun mewn cwmwlnes bod ein gweddïau ddim yn torri trwodd.

45. Ti wedi'n gwneud ni fel sbwriel a bawyng ngolwg y bobloedd.

46. Mae ein gelynion i gydyn gwneud hwyl ar ein pennau.

47. Mae panig a'r pydew wedi'n dal ni,difrod a dinistr.”

48. Mae afonydd o ddagrau yn llifo o'm llygaidam fod fy mhobl wedi cael eu dinistrio.

49. Mae'r dagrau'n llifo yn ddi-baid;wnân nhw ddim stopio

50. nes bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawro'r nefoedd ac yn ein gweld ni.

51. Mae gweld beth sydd wedi digwydd i ferched ifanc fy ninasyn fy ngwneud i mor drist.

52. Mae fy ngelynion wedi fy nal fel aderyn,heb reswm da i wneud hynny.

53. Maen nhw wedi fy nhaflu i waelod pydewac yna ei gau gyda charreg.

54. Roedd y dŵr yn codi uwch fy mhen;ron i'n meddwl fy mod i'n mynd i foddi.

55. Ond dyma fi'n galw arnat ti am help, O ARGLWYDD,o waelod y pydew.

56. Dyma ti'n clywed fi'n pledio,“Helpa fi! Paid gwrthod gwrando arna i!”

57. A dyma ti'n dod ata i pan o'n i'n galw,a dweud, “Paid bod ag ofn!”

58. Fy Meistr, rwyt wedi dadlau fy achos;rwyt wedi dod i'm hachub.

59. Ti wedi gweld y drwg gafodd ei wneud i mi, O ARGLWYDD,felly wnei di farnu o'm plaid i?

60. Ti wedi gweld eu malais nhw,a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i.

61. Ti wedi eu clywed nhw'n gwawdio, O ARGLWYDD,a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i.

62. Mae'r rhai sy'n ymosod arna i yn sibrwdac yn hel straeon yn fy erbyn drwy'r amser.

63. Edrycha arnyn nhw! – O fore gwyn tan nosmaen nhw'n fy ngwawdio i ar gân.

64. Tala yn ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw, O ARGLWYDD;rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu.

65. Gyrra nhw'n wallgof!Melltithia nhw!

66. Dos ar eu holau yn dy lid,a'u dileu nhw oddi ar wyneb y ddaear, O ARGLWYDD.