Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 2 beibl.net 2015 (BNET)

Cerdd 2 – Cosb Jerwsalem

1. O! Mae'r Meistr wedi digio'n lân,ac wedi rhoi Jerwsalem dan gwmwl tywyll!Mae'r ddinas oedd yn ysblander Israelwedi ei bwrw i lawr i'r llwch o'r nefoedd.Yn ei lid ffyrnig, mae Duw wedi gwrthod ei deml,sef ei stôl droed sydd ar y ddaear.

2. Mae wedi dinistrio cartrefi pobl Jacobheb ddangos trugaredd o gwbl.Yn ei ddig mae wedi dinistrio'r trefi caerogoedd yn amddiffyn Jwda.Mae wedi bwrw i lawr y wlad a'i harweinwyrac achosi cywilydd mawr.

3. Yn ei lid ffyrnig mae wedi dinistriogrym byddin Israel yn llwyr.Stopiodd eu hamddiffyn nhwpan oedd y gelyn yn ymosod.Roedd fel tân yn llosgi drwy'r wladac yn difa popeth ar dir Jacob.

4. Roedd fel gelyn yn anelu ei fwa saeth,a'i law dde yn barod i saethu.Lladdodd bawb oedd yn annwylyn ei olwg.Do, tywalltodd ei lid fel tânar gartrefi Jerwsalem.

5. Roedd yr Arglwydd fel gelynyn dinistrio Israel.Mae wedi dinistrio'r plastai i gyd,a dymchwel ei chaerau amddiffynnol.Bellach, dim ond griddfan a galarsydd i'w glywed drwy wlad Jwda.

6. Mae wedi chwalu ei deml fel caban mewn gwinllan.Mae wedi dinistrio canolfan y gwyliau sanctaidd.Daeth pob Gŵyl grefyddola Saboth i ben yn Seion.Yn ei lid ffyrnig trodd ei gefnar y brenin a'r offeiriaid.

7. Mae'r Meistr wedi gwrthod ei allor.Mae wedi troi cefn ar ei deml.Mae wedi gadael i'r gelynrwygo ei waliau i lawr.Roedd sŵn y gelyn yn gweiddi yn nheml yr ARGLWYDDfel sŵn pobl yn dathlu yno ar ddydd Gŵyl.

8. Roedd yr ARGLWYDD yn benderfynolo droi waliau dinas Jerwsalem yn adfeilion.Roedd wedi cynllunio'n ofalus beth i'w wneud,ac aeth ati i'w dinistrio nhw'n llwyr.Bellach mae'r waliau oedd yn amddiffyn y ddinasyn gorwedd yn llesg fel pobl yn galaru.

9. Mae giatiau'r ddinas yn gorwedd ar lawr,a'r barrau oedd yn eu cloi wedi malu.Mae'r brenin a'r arweinwyr wedi eu cymryd yn gaeth.Does neb i roi arweiniad o'r Gyfraith,a does gan y proffwydi ddim gweledigaethgan yr ARGLWYDD.

10. Mae'r henoed sydd ar ôl yn Jerwsalemyn eistedd ar lawr yn hollol dawel.Maen nhw wedi taflu pridd ar eu pennauac yn gwisgo sachliain yn eu tristwch.Mae merched ifanc Jerwsalemyn syllu ar lawr yn ddigalon.

11. Mae fy llygaid innau'n llawn dagrau.Mae fy stumog yn corddi y tu mewn i mi.Mae'r hyn sydd wedi digwydd i'm poblyn fy ngwneud i'n sâl.Mae plant a babis bach yn llwgu a llewyguar strydoedd y ddinas!

12. Mae plant yn galw ar eu mamau.“Dw i eisiau bwyd. Dw i eisiau diod.”Maen nhw'n llewygu ar y strydoeddfel milwyr wedi eu hanafu.Maen nhw'n marw yn arafym mreichiau eu mamau.

13. Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud.Dw i wedi gweld dim byd tebyg.Jerwsalem annwyl,beth alla i ei wneud i dy helpu di?Mae dy anaf mor ddwfn â'r môr mawr;does neb yn gallu dy iacháu.

14. Roedd gweledigaethau dy broffwydiyn gelwydd ac yn dwyll!Yn lle gwneud pethau'n iawn etodrwy ddangos dy bechod i ti,roedden nhw'n cyhoeddi pethau ffalsac yn dy gamarwain di.

15. Mae pawb sy'n pasio heibioyn curo dwylo'n wawdlyd.Maen nhw'n chwibanu'n ddirmygusac yn ysgwyd eu pennau ar Jerwsalem druan.“Ha! Felly dyma'r un oedd yn cael ei disgrifio fel‘y ddinas harddaf un sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus’?”

16. Mae dy elynion i gydyn gwneud hwyl am dy ben;yn gwawdio ac yn gwneud ystumiau arnat.“Dŷn ni wedi ei dinistrio hi!” medden nhw.“Roedden ni wedi edrych ymlaen at y diwrnod yma,ac o'r diwedd mae wedi dod!”

17. Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth oedd yn ei fwriadu.Mae wedi gwneud beth oedd yn ei ddweud.Roedd wedi bygwth hyn ers talwm.Mae wedi dinistrio heb ddangos trugaredd.Mae wedi gadael i'r gelyn ddathlu dy orchfygu,ac ymffrostio fod ei fyddin mor bwerus.

18. Gwaeddwch yn daer ar yr Arglwydd!O waliau Jerwsalem, gadewch i'r dagraulifo fel afon ddydd a nos!Peidiwch gorffwyso;peidiwch gadael i'r dagrau stopio!

19. Cod! Gwaedda am help yn y nos!Gwna hynny drosodd a throsodd.Tywallt beth sydd ar dy galono flaen yr Arglwydd!Estyn dy ddwylo ato mewn gweddi,i bledio dros y plantsy'n marw o newynar gornel pob stryd.

20. Edrych! ARGLWYDD, meddylia am y peth!I bwy arall wyt ti wedi gwneud hyn?Ydy'n iawn fod gwragedd yn bwyta'r plantmaen nhw wedi gofalu amdanyn nhw?Ddylai offeiriaid a phroffwydigael eu lladd yn nheml yr ARGLWYDD?

21. Mae hen ac ifanc yn gorwedd yn farwar lwch y strydoedd.Bechgyn a merched ifancwedi eu taro gan gleddyf y gelyn.Ti wnaeth hyn pan ddangosaist dy lid ffyrnig.Lleddaist nhw yn ddidrugaredd.

22. Cafodd y gelyn, oedd yn creu dychryn ym mhobman,wahoddiad gen ti, fel petai'n ddydd Gŵyl.Ond diwrnod i ti ddangos dy lid ffyrnig oedd e,a doedd neb i ddianc na chael byw.Do, lladdodd y gelyny plant wnes i eu mwytho a'u magu.