Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 1 beibl.net 2015 (BNET)

Cerdd 1 – Dioddefaint Jerwsalem

1. O! Mae'r ddinas oedd yn fwrlwm o boblyn eistedd mor unig!Mae'r ddinas oedd yn enwog drwy'r bydbellach yn wraig weddw.Roedd hi fel tywysoges y taleithiau,ond bellach mae'n gaethferch.

2. Mae hi'n beichio crïo drwy'r nos,a'r dagrau'n llifo i lawr ei hwyneb.Does dim un o'i chariadonyno i'w chysuro.Mae ei ffrindiau i gyd wedi ei bradychuac wedi troi'n elynion iddi.

3. Mae pobl Jwda wedi eu cymryd i ffwrdd yn gaethion;ar ôl diodde'n hir maen nhw'n gaethweision.Mae'n nhw'n byw mewn gwledydd eraillac yn methu'n lân a setlo yno.Mae'r gelynion oedd yn eu herlid wedi eu dal;doedd ganddyn nhw ddim gobaith dianc.

4. Mae'r ffyrdd gwag i Jerwsalem yn galaru;Does neb yn teithio i'r gwyliau i ddathlu.Does dim pobl yn mynd trwy giatiau'r ddinas.Dydy'r offeiriaid yn gwneud dim ond griddfan,ac mae'r merched ifanc, oedd yno'n canu a dawnsio, yn drist.Mae Jerwsalem mewn cyflwr truenus!

5. Ei gelynion sy'n ei rheoli,ac mae bywyd mor braf iddyn nhwam fod yr ARGLWYDD wedi ei chosbi hiam wrthryfela yn ei erbyn mor aml.Mae ei phlant wedi eu cymryd i ffwrddyn gaethion gan y gelyn.

6. Mae popeth oedd hi'n ymfalchïo ynddowedi ei gymryd oddi ar Jerwsalem.Roedd ei harweinwyr fel ceirwyn methu dod o hyd i borfa,ac yn rhy wan i ddiancoddi wrth yr heliwr.

7. Mae Jerwsalem, sy'n dlawd a digartre,yn cofio ei holl drysorau –sef y pethau gwerthfawr oedd piau hi o'r blaen.Pan gafodd ei choncro gan ei gelyniondoedd neb yn barod i'w helpu.Roedd ei gelynion wrth eu boddau,ac yn chwerthin yn ddirmygus wrth iddi gael ei dinistrio.

8. Roedd Jerwsalem wedi pechu'n ofnadwy,felly cafodd ei thaflu i ffwrdd fel peth aflan.Mae pawb oedd yn ei hedmygu bellach yn gwneud sbortwrth ei gweld hi'n noeth.A dyna lle mae hithau'n griddfan ar lawrac yn cuddio ei hwyneb mewn cywilydd.

9. Wnaeth hi ddim meddwl beth fyddai'n digwydd yn y diwedd.Mae gwaed ei misglwyf wedi difetha ei dillad.Roedd ei chwymp yn rhyfeddol!Doedd neb yno i'w chysuro.“O ARGLWYDD, edrych arna i'n diodde!” meddai,“Mae'r gelyn wedi fy nghuro.”

10. Mae'r gelyn wedi cymrydei thrysorau hi i gyd.Ydy, mae hi wedi gorfod gwylio milwyr paganaiddyn mynd i mewn i'r deml sanctaidd.Ie, y bobl wnest ti wrthod gadael iddyn nhwfod yn rhan o'r gynulleidfa o addolwyr!

11. Mae pobl Jerwsalem yn griddfanwrth chwilio am rywbeth i'w fwyta.Maen nhw'n gorfod gwerthu popeth gwerthfawri gael bwyd i gadw'n fyw.“Edrych, ARGLWYDD,dw i'n dda i ddim bellach!”

12. Ydy e ddim bwys i chi sy'n pasio heibio?Edrychwch arna i'n iawn.Oes rhywun wedi diodde fel dw i wedi diodde?Yr ARGLWYDD wnaeth hyn i mipan oedd wedi digio'n lân.

13. Anfonodd dân i lawr o'r nefoedd,oedd yn llosgi yn fy esgyrn.Gosododd rwyd i'm dal i,rhag i mi fynd ddim pellach.Mae wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;dw i'n teimlo'n sâl drwy'r amser.

14. Mae ngwrthryfel wedi ei rwymo fel iau ar fy ngwddf.Duw ei hun sydd wedi ei rwymo.Mae e wedi gosod ei iau ar fy ngwar,a'm gwneud i yn hollol wan.Mae'r Meistr wedi fy rhoi yn nwylo'r gelyn,ac alla i wneud dim yn eu herbyn.

15. Mae'r Meistr wedi taflu allan y milwyr dewroedd yn fy amddiffyn.Mae wedi galw byddin i ymladd yn fy erbynac i sathru fy milwyr ifanc dan draed.Ydy, mae'r Meistr wedi sathru pobl Jwda annwylfel sathru grawnwin mewn gwinwasg.

16. Dyna pam dw i'n crïo.Dyna pam mae'r dagrau'n llifo.Does gen i neb wrth law i'm cysuro;neb i godi fy nghalon.Does gan fy mhlant ddim dyfodol.Mae'r gelyn wedi eu gorchfygu.

17. Mae Seion yn begian am help,ond does neb yno i'w chysuro hi.Mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyni'r gwledydd o'u cwmpas ymosod ar bobl Jacob.Mae Jerwsalem yn eu canol nhwfel peth aflan y dylid ei daflu i ffwrdd.

18. Yr ARGLWYDD sy'n iawn;dw i wedi tynnu'n groes i beth ddwedodd e.Gwrandwch arna i, bawb!Edrychwch gymaint dw i'n ei ddiodde.Mae fy merched a'm dynion ifancwedi cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.

19. Roeddwn i'n galw ar fy ffrindiau am helpond dyma nhw i gyd yn troi cefn arna i.Bu farw'r offeiriaid a'r arweinwyr yn y ddinaswrth edrych am fwyd i gadw eu hunain yn fyw.

20. ARGLWYDD, edrych mor ddrwg mae hi arna i!Dw i'n corddi tu mewn.Dw i'n torri fy nghalon,achos dw i'n gwybod mod i wedi gwrthryfela'n llwyr.Allan ar y stryd mae'r gelyn yn lladd;yn y tai mae pobl yn marw o newyn.

21. Maen nhw wedi fy nghlywed i'n griddfan,a does yna neb i'm cysuro.Mae fy ngelynion wedi clywed am fy helyntion,ac maen nhw'n falch dy fod wedi gwneud hyn i mi.Brysied y diwrnod rwyt wedi sôn amdano,pan gân nhw eu cosbi run fath â fi!