Hen Destament

Testament Newydd

Esra 10:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Tra roedd Esra yn gweddïo ac yn cyffesu, ac yn crïo ar ei hyd ar lawr o flaen teml Dduw, roedd tyrfa fawr o bobl Israel – dynion, merched, a phlant – wedi casglu o'i gwmpas. Roedden nhw i gyd yn beichio crïo.

2. A dyma Shechaneia fab Iechiel, o deulu Elam, yn dweud wrth Esra:“Dŷn ni wedi bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi merched y bobloedd eraill sy'n byw yma. Ac eto mae gobaith i Israel er gwaetha'r cwbl.

3. Gad i ni wneud ymrwymiad i'n Duw i yrru'r gwragedd yma a'u plant i ffwrdd, fel rwyt ti a'r rhai eraill sy'n parchu gorchmynion Duw yn cynghori. Gad i ni wneud hynny fel mae'r Gyfraith yn dweud.

4. Tyrd, mae'n rhaid i ti wneud rhywbeth am y sefyllfa. Bwrw iddi. Dŷn ni tu cefn i ti.”

5. Felly dyma Esra yn codi a chael arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid a pobl Israel i gyd i addo gwneud hyn. A dyma nhw i gyd yn addo ar lw y bydden nhw'n ufuddhau.

6. Yna dyma Esra yn gadael y deml, a mynd i aros yn ystafell Iehochanan fab Eliashif. Wnaeth e ddim bwyta na hyd yn oed yfed dŵr tra roedd e yno; roedd e mor drist fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon.

7. Yna cafodd cyhoeddiad ei anfon allan drwy Jwda a Jerwsalem, yn galw ar bawb ddaeth yn ôl o'r gaethglud i ddod at ei gilydd yn Jerwsalem.

8. Byddai'r rhai oedd ddim yno o fewn tri diwrnod yn colli eu heiddo i gyd. Dyna oedd penderfyniad y swyddogion a'r arweinwyr. Byddai'r bobl hynny yn cael eu diarddel o gymdeithas y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud.

9. Felly daeth pawb o Jwda a Benjamin at ei gilydd i Jerwsalem o fewn tri diwrnod (ar yr ugeinfed diwrnod o'r nawfed mis). Roedden nhw i gyd yn sefyll yn y sgwâr o flaen teml yr ARGLWYDD. Roedd pawb yn nerfus iawn, ac yn crynu yn y glaw.

10. Yna dyma Esra'r offeiriad yn sefyll i'w hannerch nhw, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon, yn cymryd merched y bobloedd eraill yn wragedd. Mae hyn wedi gwneud Israel yn fwy euog fyth o flaen Duw!

11. Mae'n bryd i chi anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, a gwneud beth mae e eisiau. Rhaid i chi dorri pob cysylltiad gyda'r bobl a'r gwragedd paganaidd yma.”

12. A dyma pawb oedd yno yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, rhaid i ni wneud fel ti'n dweud!

13. Ond mae yna lot fawr ohonon ni, ac mae'n glawio'n drwm. Allwn ni ddim sefyll allan yma. Dydy'r mater ddim yn mynd i gael ei setlo mewn rhyw ddiwrnod neu ddau, am fod gormod ohonon ni wedi pechu yn hyn o beth.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 10