Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esra 10 beibl.net 2015 (BNET)

Y bobl yn cyffesu eu bod wedi pechu

1. Tra roedd Esra yn gweddïo ac yn cyffesu, ac yn crïo ar ei hyd ar lawr o flaen teml Dduw, roedd tyrfa fawr o bobl Israel – dynion, merched, a phlant – wedi casglu o'i gwmpas. Roedden nhw i gyd yn beichio crïo.

2. A dyma Shechaneia fab Iechiel, o deulu Elam, yn dweud wrth Esra:“Dŷn ni wedi bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi merched y bobloedd eraill sy'n byw yma. Ac eto mae gobaith i Israel er gwaetha'r cwbl.

3. Gad i ni wneud ymrwymiad i'n Duw i yrru'r gwragedd yma a'u plant i ffwrdd, fel rwyt ti a'r rhai eraill sy'n parchu gorchmynion Duw yn cynghori. Gad i ni wneud hynny fel mae'r Gyfraith yn dweud.

4. Tyrd, mae'n rhaid i ti wneud rhywbeth am y sefyllfa. Bwrw iddi. Dŷn ni tu cefn i ti.”

5. Felly dyma Esra yn codi a chael arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid a pobl Israel i gyd i addo gwneud hyn. A dyma nhw i gyd yn addo ar lw y bydden nhw'n ufuddhau.

6. Yna dyma Esra yn gadael y deml, a mynd i aros yn ystafell Iehochanan fab Eliashif. Wnaeth e ddim bwyta na hyd yn oed yfed dŵr tra roedd e yno; roedd e mor drist fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon.

7. Yna cafodd cyhoeddiad ei anfon allan drwy Jwda a Jerwsalem, yn galw ar bawb ddaeth yn ôl o'r gaethglud i ddod at ei gilydd yn Jerwsalem.

8. Byddai'r rhai oedd ddim yno o fewn tri diwrnod yn colli eu heiddo i gyd. Dyna oedd penderfyniad y swyddogion a'r arweinwyr. Byddai'r bobl hynny yn cael eu diarddel o gymdeithas y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud.

9. Felly daeth pawb o Jwda a Benjamin at ei gilydd i Jerwsalem o fewn tri diwrnod (ar yr ugeinfed diwrnod o'r nawfed mis). Roedden nhw i gyd yn sefyll yn y sgwâr o flaen teml yr ARGLWYDD. Roedd pawb yn nerfus iawn, ac yn crynu yn y glaw.

10. Yna dyma Esra'r offeiriad yn sefyll i'w hannerch nhw, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon, yn cymryd merched y bobloedd eraill yn wragedd. Mae hyn wedi gwneud Israel yn fwy euog fyth o flaen Duw!

11. Mae'n bryd i chi anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, a gwneud beth mae e eisiau. Rhaid i chi dorri pob cysylltiad gyda'r bobl a'r gwragedd paganaidd yma.”

12. A dyma pawb oedd yno yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, rhaid i ni wneud fel ti'n dweud!

13. Ond mae yna lot fawr ohonon ni, ac mae'n glawio'n drwm. Allwn ni ddim sefyll allan yma. Dydy'r mater ddim yn mynd i gael ei setlo mewn rhyw ddiwrnod neu ddau, am fod gormod ohonon ni wedi pechu yn hyn o beth.

14. Gall y penaethiaid weithredu ar ran pawb. Wedyn gosod dyddiad penodol i bob tref, i bawb yn y dref honno sydd wedi cymryd gwragedd o blith y bobloedd eraill, i ddod yma. Gall arweinwyr a barnwyr y dref ddod gyda nhw, nes bydd Duw ddim mor ffyrnig hefo ni am beth wnaethon ni.”

15. (Yr unig rai oedd yn erbyn y cynllun yma oedd Jonathan fab Asahel a Iachseia fab Ticfa, gyda cefnogaeth Meshwlam a Shabbethai y Lefiad.)

16. Felly aeth y bobl yn eu blaenau gyda'r cynllun. Dyma Esra'r offeiriad yn dewis dynion oedd yn arweinwyr yn eu clan, a'u rhestru nhw wrth eu henwau. A dyma nhw'n dechrau mynd ati i ddelio gyda'r mater ar ddiwrnod cynta'r degfed mis.

17. Roedd hi'n ddiwrnod cynta'r flwyddyn ganlynol erbyn iddyn nhw orffen delio gyda'r holl ddynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd.

Y dynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd

Offeiriaid

18. Dyma restr o'r offeiriaid oedd wedi cymryd gwragedd paganaidd:O deulu Ieshŵa fab Iotsadac a'i frodyr: Maaseia, Elieser, Iarîf a Gedaleia.

19. (Dyma nhw'n addo gyrru eu gwragedd i ffwrdd, ac yn cyflwyno hwrdd yn offrwm i gyfaddef eu bai.)

20. O deulu Immer: Chanani a Sebadeia

21. O deulu Charîm: Maaseia, Elïa, Shemaia, Iechiel ac Wseia.

22. O deulu Pashchwr: Elioenai, Maaseia, Ishmael, Nethanel, Iosafad, ac Elasa.

Lefiaid

23. O'r Lefiaid: Iosafad, Shimei, Celaia (sef Celita), Pethacheia, Jwda ac Elieser.

Cantorion

24. O'r cantorion: Eliashif.O'r rhai oedd yn gofalu am y giatiau: Shalwm, Telem ac Wri.

Gofalwyr y giatiau

25. Yna pobl gyffredin Israel:O deulu Parosh: Rameia, Iesïa, Malcîa, Miamin, Eleasar, Malcîa a Benaia.

26. O deulu Elam: Mataneia, Sechareia, Iechiel, Afdi, Ieremoth ac Elïa.

27. O deulu Sattw: Elioenai, Eliashif, Mataneia, Ieremoth, Safad ac Asisa.

28. O deulu Bebai: Iehochanan, Chananeia, Sabbai, ac Athlai.

29. O deulu Bani: Meshwlam, Malŵch, Adaia, Iashŵf, Sheal ac Ieremoth.

30. O deulu Pachath-Moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Betsalel, Binnŵi a Manasse.

31. O deulu Charîm: Elieser, Ishïa, Malcîa, Shemaia, Simeon,

32. Benjamin, Malŵch, a Shemareia.

33. O deulu Chashŵm: Matenai, Matata, Safad, Eliffelet, Ieremai, Manasse a Shimei.

34. O deulu Bani: Maadai, Amram, Ŵel,

35. Benaia, Bedeia, Celwhw,

36. Faneia, Meremoth, Eliashif,

37. Mataneia, Matenai, a Iaäsai.

38. O deulu Binnŵi: Shimei,

39. Shelemeia, Nathan, Adaia,

40. Machnadebai, Shashai, Sharai,

41. Asarel, Shelemeia, Shemareia,

42. Shalwm, Amareia, a Joseff.

43. O deulu Nebo: Jeiel, Matitheia, Safad, Sefina, Iadai, Joel a Benaia.

44. Roedd y rhain i gyd wedi cymryd gwragedd paganaidd, ac roedd rhai ohonyn nhw wedi cael plant gyda'r gwragedd hynny.