Tra roedd Esra yn gweddïo ac yn cyffesu, ac yn crïo ar ei hyd ar lawr o flaen teml Dduw, roedd tyrfa fawr o bobl Israel – dynion, merched, a phlant – wedi casglu o'i gwmpas. Roedden nhw i gyd yn beichio crïo.