Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 31:13-21 beibl.net 2015 (BNET)

13. Yna dyma'r brenin Heseceia ac Asareia, pennaeth y deml, yn trefnu i Iechiel, Asaseia, Nachath, Asahel, Ierimoth, Iosafad, Eliel, Ismacheia, Machat a Benaia i weithio oddi tanyn nhw.

14. Core fab Imna, Lefiad oedd yn gwarchod y giât ddwyreiniol, oedd yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol. Fe hefyd oedd i ddosbarthu'r rhoddion oedd wedi eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, a'r eitemau wedi eu cysegru.

15. Wedyn roedd Eden, Miniamîn, Ieshŵa, Shemaia, Amareia a Shechaneia yn ei helpu yn nhrefi'r offeiriad. Roedden nhw i fod i rannu'r rhoddion yn deg rhwng y gwahanol deuluoedd o offeiriaid, ifanc a hen fel ei gilydd.

16. Roedd pob gwryw oedd dros dair mlwydd oed ar y cofrestrau teuluol i dderbyn rhoddion – y rhai fyddai yn eu tro yn mynd i deml yr ARGLWYDD i gyflawni dyletswyddau'r grŵp roedden nhw'n perthyn iddi.

17. Hefyd yr offeiriaid oedd wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol, a'r Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed oedd wedi eu rhestru yn ôl eu dyletswyddau a'u grwpiau.

18. A'r plant lleiaf hefyd, y gwragedd, a'r meibion a'r merched i gyd – pawb oedd ar y cofrestrau teuluol. Roedden nhw i gyd wedi bod yn ffyddlon a cysegru eu hunain.

19. Wedyn roedd rhai wedi cael eu dewis ym mhob tref i rannu eu siâr i ddisgynyddion Aaron, sef yr offeiriad oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas pob tref. Roedd pob gwryw o deulu offeiriadol a phob un o'r Lefiaid oedd ar y cofrestrau teuluol i gael eu siâr.

20. Trefnodd y brenin Heseceia fod hyn i ddigwydd trwy Jwda gyfan. Gwnaeth beth oedd yn dda; gwnaeth y peth iawn; ac roedd yn ffyddlon yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.

21. Aeth ati o ddifrif i ailsefydlu gwasanaeth teml Dduw ac i fod yn ufudd i'r Gyfraith a dilyn ei Dduw. Ac fe lwyddodd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 31