Wedyn roedd Eden, Miniamîn, Ieshŵa, Shemaia, Amareia a Shechaneia yn ei helpu yn nhrefi'r offeiriad. Roedden nhw i fod i rannu'r rhoddion yn deg rhwng y gwahanol deuluoedd o offeiriaid, ifanc a hen fel ei gilydd.