Core fab Imna, Lefiad oedd yn gwarchod y giât ddwyreiniol, oedd yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol. Fe hefyd oedd i ddosbarthu'r rhoddion oedd wedi eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, a'r eitemau wedi eu cysegru.