Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 29:17-30 beibl.net 2015 (BNET)

17. Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr ARGLWYDD. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a cafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis.

18. Yna dyma nhw'n mynd at y Brenin Heseceia a dweud, “Dŷn ni wedi cysegru teml yr ARGLWYDD i gyd, yr allor i losgi aberthau a'i hoffer i gyd, a'r bwrdd mae'r bara i'w osod yn bentwr arno gyda'i holl lestri.

19. Dŷn ni hefyd wedi cysegru'r holl lestri wnaeth y Brenin Ahas eu taflu allan pan oedd yn anffyddlon i Dduw. Maen nhw yn ôl o flaen yr allor.”

20. Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Heseceia'n galw arweinwyr y ddinas at ei gilydd a mynd i deml yr ARGLWYDD.

21. Aethon nhw â saith tarw ifanc, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod y deyrnas, y deml a gwlad Jwda. A dyma'r brenin yn gofyn i'r offeiriaid (disgynyddion Aaron) eu llosgi'n offrymau ar allor yr ARGLWYDD.

22. Felly dyma'r offeiriaid yn lladd y teirw a sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna gwneud yr un peth gyda'r hyrddod a'r ŵyn.

23. Yna'n olaf dyma nhw'n dod â'r bwch geifr (oedd i fod yn offrwm i lanhau o bechod) at y brenin a'r bobl eraill oedd yno iddyn nhw osod eu dwylo ar ben y geifr.

24. Wedyn dyma'r offeiriaid yn eu lladd a rhoi'r gwaed ar yr allor yn offrwm dros bechodau Israel gyfan. Roedd y brenin wedi dweud fod yr offrymau i'w llosgi a'r aberthau dros bechodau Israel gyfan.

25. Yna dyma'r Brenin Heseceia yn gosod y Lefiaid yn eu lle yn nheml yr ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, fel roedd y brenin Dafydd wedi dweud. (Yr ARGLWYDD oedd wedi rhoi'r cyfarwyddiadau yma drwy Gad, proffwyd y brenin a'r proffwyd Nathan).

26. Felly roedd y Lefiaid yn sefyll gydag offerynnau'r Brenin Dafydd, a'r offeiriaid gydag utgyrn.

27. A dyma Heseceia'n rhoi'r gair iddyn nhw losgi'r offrymau ar yr allor. Wrth iddyn nhw ddechrau gwneud hynny dyma ddechrau canu mawl i'r ARGLWYDD i gyfeiliant yr utgyrn ac offerynnau Dafydd, brenin Israel.

28. Roedd y gynulleidfa gyfan yn plygu i lawr i addoli, y cantorion yn canu a'r utgyrn yn seinio nes i'r offrwm orffen llosgi.

29. Ar ôl llosgi'r offrwm dyma'r brenin a phawb oedd gydag e yn plygu i lawr ac addoli.

30. Yna dyma'r Brenin Heseceia yn dweud wrth y Lefiaid am foli'r ARGLWYDD drwy ganu'r caneuon ysgrifennodd y brenin Dafydd a'r proffwyd Asaff. Felly buon nhw wrthi'n canu'n llawen ac yn plygu i lawr ac yn addoli.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 29