Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 5:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd yna ddyn pwysig yn Syria o'r enw Naaman, pennaeth y fyddin, ac roedd gan ei feistr, y brenin, barch mawr ato. Trwyddo fe roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi llwyddiant milwrol i wlad Syria. Ond yna cafodd y milwr dewr yma ei daro'n wael gan glefyd heintus ar y croen.

2. Un tro pan oedd milwyr Syria yn ymosod ar Israel, roedden nhw wedi cymryd merch ifanc yn gaeth. Roedd hi'n gweithio fel morwyn i wraig Naaman.

3. A dyma hi'n dweud wrth ei meistres, “Dyna biti na fyddai'r meistr yn gallu mynd i weld y proffwyd sydd yn Samaria. Gallai e ei wella.”

4. Aeth Naaman i rannu gyda'i feistr, y brenin, beth roedd yr eneth o wlad Israel wedi ei ddweud.

5. A dyma frenin Syria'n dweud wrtho, “Dos yno. Gwna i ysgrifennu llythyr at frenin Israel.” Felly dyma Naaman yn mynd. Aeth â tri chant pedwar deg cilogram o arian, chwe deg wyth cilogram o aur a deg set o ddillad gydag e.

6. A dyma fe'n mynd â llythyr ei feistr at frenin Israel. Roedd y llythyr yn dweud, “Dw i'n anfon fy ngwas Naaman atat ti er mwyn i ti ei wella o'r afiechyd sydd ar ei groen.”

7. Ar ôl darllen y llythyr dyma frenin Israel yn rhwygo ei ddillad a gweiddi, “Ai Duw ydw i? Oes gen i awdurdod dros fywyd a marwolaeth, neu awdurdod i iacháu y dyn yma mae e wedi ei anfon ata i? Gwyliwch chi, chwilio am esgus i ymosod arnon ni mae e!”

8. Pan glywodd y proffwyd Eliseus fod y brenin wedi rhwygo ei ddillad, dyma fe'n anfon neges ato: “Pam wyt ti wedi rhwygo dy ddillad? Anfon e ata i, iddo gael gwybod bod yna broffwyd yn Israel.”

9. Felly dyma Naaman yn mynd, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll y tu allan i dŷ Eliseus.

10. A dyma Eliseus yn anfon neges ato. “Dos i ymolchi saith gwaith yn yr Afon Iorddonen, a bydd dy groen di'n gwella a byddi'n lân eto.”

11. Ond dyma Naaman yn mynd i ffwrdd, wedi gwylltio. “Roeddwn i'n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae'r afiechyd, a'm gwella i.

12. A beth bynnag, onid ydy afonydd Abana a Parpar yn Damascus, yn well na holl afonydd Israel gyda'i gilydd? Allwn i ddim bod wedi ymolchi yn y rheiny i gael fy iacháu?” Ac i ffwrdd ag e mewn tymer.

13. Ond dyma ei weision yn mynd ato, a dweud, “Syr, petai'r proffwyd wedi gofyn i ti wneud rhywbeth anodd, oni fyddet wedi ei wneud o? Y cwbl mae e'n ei ofyn ydy, ‘Dos i ymolchi, a byddi'n lân.’”

14. Felly dyma fe'n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn yr Afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma'i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 5