A dyma frenin Syria'n dweud wrtho, “Dos yno. Gwna i ysgrifennu llythyr at frenin Israel.” Felly dyma Naaman yn mynd. Aeth â tri chant pedwar deg cilogram o arian, chwe deg wyth cilogram o aur a deg set o ddillad gydag e.