Ar ôl darllen y llythyr dyma frenin Israel yn rhwygo ei ddillad a gweiddi, “Ai Duw ydw i? Oes gen i awdurdod dros fywyd a marwolaeth, neu awdurdod i iacháu y dyn yma mae e wedi ei anfon ata i? Gwyliwch chi, chwilio am esgus i ymosod arnon ni mae e!”