Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20:14-29 beibl.net 2015 (BNET)

14. A dyma Ahab yn gofyn, “Sut?”“Drwy swyddogion ifanc y taleithiau,” meddai'r proffwyd.A dyma Ahab yn gofyn, “Pwy fydd yn ymosod gyntaf?”“Ti,” meddai'r proffwyd.

15. Felly dyma Ahab yn casglu swyddogion ifainc y taleithiau at ei gilydd, ac roedd yna ddau gant tri deg dau ohonyn nhw. Wedyn dyma fe'n casglu byddin Israel, ac roedd yna saith mil ohonyn nhw.

16-17. Dyma nhw'n mynd allan tua hanner dydd, gyda swyddogion ifanc y taleithiau yn eu harwain. Roedd Ben-hadad a'r tri deg dau brenin oedd gydag e yn yfed eu hunain yn chwil yn eu pebyll. A dyma'i sgowtiaid yn dod a dweud wrtho, “Mae yna filwyr yn dod allan o Samaria.”

18. Dyma Ben-hadad yn dweud: “Daliwch nhw'n fyw – sdim ots os ydyn nhw am wneud heddwch neu am ymladd.”

19. Roedd swyddogion ifanc y taleithiau yn arwain byddin Israel allan.

20. A dyma nhw'n taro milwyr y gelyn nes i'r Syriaid orfod ffoi. Aeth Israel er eu holau, ond dyma Ben-hadad yn dianc ar gefn ceffyl gyda'i farchogion.

21. Dyna sut wnaeth brenin Israel orchfygu holl gerbydau a marchogion y gelyn. Cafodd y Syriaid eu trechu'n llwyr.

22. Yna dyma'r proffwyd yn mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Rhaid i ti gryfhau'r amddiffynfeydd, a penderfynu beth i'w wneud. Achos yn y gwanwyn bydd brenin Syria yn ymosod eto.”

23. Dyma swyddogion brenin Syria yn dweud wrtho, “Duw'r bryniau ydy eu duw nhw, a dyna pam wnaethon nhw'n curo ni. Os gwnawn ni eu hymladd nhw ar y gwastadedd byddwn ni'n siŵr o ennill.

24. Dyma sydd raid i ni ei wneud: Cael capteniaid milwrol i arwain y fyddin yn lle'r brenhinoedd yma.

25. Yna casglu byddin at ei gilydd yn lle yr un wnest ti ei cholli, gyda'r un faint o geffylau a cherbydau. Wedyn awn ni i ymladd gyda nhw ar y gwastadedd. Byddwn ni'n siŵr o ennill.” A dyma Ben-hadad yn gwneud beth roedden nhw'n ei awgrymu.

26. Felly yn y gwanwyn dyma Ben-hadad yn casglu byddin Syria at ei gilydd, a mynd i ymladd yn erbyn Israel yn Affec.

27. A pan oedd byddin Israel wedi ei galw ac wedi derbyn eu cyflenwadau dyma nhw'n mynd allan i ryfel. Roedd gwersyll Israel gyferbyn â'r Syriaid ac yn edrych fel dwy ddiadell fach o eifr o'i gymharu â byddin Syria oedd yn llenwi'r wlad!

28. Dyma'r proffwyd yn mynd i weld brenin Israel, a dweud wrtho: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod Syria wedi dweud mai Duw y bryniau ydy'r ARGLWYDD, dim Duw y ddyffrynnoedd, dw i'n mynd i roi'r fyddin anferth yma yn dy law di. Byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”

29. Roedd y ddwy fyddin yn gwersylla gyferbyn â'i gilydd am saith diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma'r ymladd yn dechrau. Lladdodd milwyr Israel gan mil o wŷr traed Syria mewn un diwrnod!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 20