Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin i gyd. Roedd yna dri deg dau o frenhinoedd gydag e gyda'u cerbydau a'u ceffylau. Aeth i warchae ar Samaria ac ymosod arni.

2. A dyma fe'n anfon neges i'r ddinas at y brenin Ahab.

3. “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Fi piau dy arian di a dy aur di. Fi piau dy hoff wragedd di a dy blant di hefyd.’”

4. A dyma frenin Israel yn ateb, “Iawn, fy mrenin, fy meistr i! Ti sydd piau fi a phopeth sydd gen i.”

5. Yna dyma'r negeswyr yn dod yn ôl ato eto a dweud, “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Dw i eisoes wedi dweud wrthot ti am roi dy arian, dy aur, dy wragedd a dy blant i mi.

6. Tua'r adeg yma yfory dw i'n mynd i anfon fy ngweision atat ti, a byddan nhw'n chwilio drwy dy balas di a thai dy swyddogion, ac yn cymryd popeth gwerthfawr oddi arnat ti.’”

7. Dyma frenin Israel yn galw holl arweinwyr y wlad at ei gilydd, a dweud, “Gwrandwch, mae'r dyn yma am greu helynt go iawn. Pan wnaeth e hawlio'r gwragedd a'r plant a'r holl arian a'r aur sydd gen i, wnes i ddim ei wrthod e.”

8. A dyma'r arweinwyr a'r bobl yn dweud wrtho, “Paid gwrando arno! Paid cytuno.”

9. Felly dyma Ahab yn dweud wrth negeswyr Ben-hadad, “Dwedwch wrth fy meistr, y brenin, ‘Dw i'n fodlon gwneud popeth wnest ti ofyn y tro cyntaf, ond alla i ddim cytuno i hyn.’” A dyma'r negeswyr yn mynd â'r ateb yn ôl i'w meistr.

10. Yna dyma Ben-hadad yn anfon neges arall, “Boed i'r duwiau fy melltithio i, os bydd unrhyw beth ar ôl o Samaria ond llond dwrn o lwch i bob un o'r dynion sy'n fy nilyn i ei godi.”

11. Ateb brenin Israel oedd, “Paid brolio wrth godi dy arfau, dim ond pan fyddi'n ei rhoi i lawr!”

12. Roedd Ben-hadad yn diota yn ei babell gyda'r brenhinoedd eraill pan gafodd yr ateb yma. A dyma fe'n dweud wrth ei filwyr, “Paratowch i ymosod!” A dyma nhw'n paratoi i ymosod ar y ddinas.

13. Dyma broffwyd yn mynd i weld Ahab, brenin Israel, a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Wyt ti'n gweld y fyddin anferth yna? Heddiw dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn dy law di, a byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”

14. A dyma Ahab yn gofyn, “Sut?”“Drwy swyddogion ifanc y taleithiau,” meddai'r proffwyd.A dyma Ahab yn gofyn, “Pwy fydd yn ymosod gyntaf?”“Ti,” meddai'r proffwyd.

15. Felly dyma Ahab yn casglu swyddogion ifainc y taleithiau at ei gilydd, ac roedd yna ddau gant tri deg dau ohonyn nhw. Wedyn dyma fe'n casglu byddin Israel, ac roedd yna saith mil ohonyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 20