6. A'r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda'r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.
7. A'r Iesu gyda'i ddisgyblion a giliodd tua'r môr: a lliaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea,
8. Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a'r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato.
9. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef.
10. Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt.
11. A'r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw.
12. Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
13. Ac efe a esgynnodd i'r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato.
14. Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu;
15. Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.
16. Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr;
17. Ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;)
18. Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead,
19. A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ.