Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Iago 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch.

2. Eich cyfoeth a bydrodd, a'ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed.

3. Eich aur a'ch arian a rydodd; a'u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf.

4. Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd.

5. Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth.

6. Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i'ch erbyn.

7. Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae'r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar.

8. Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd.

9. Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na'ch condemnier: wele, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws.

10. Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros.

11. Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw'r Arglwydd, a thrugarog.

12. Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a'ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth.

13. A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn esmwyth arno? caned salmau.

14. A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy drosto, gan ei eneinio ef ag olew yn enw'r Arglwydd:

15. A gweddi'r ffydd a iachâ'r claf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo.

16. Cyffeswch eich camweddau bawb i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y'ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi'r cyfiawn.

17. Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis.

18. Ac efe a weddïodd drachefn; a'r nef a roddes law, a'r ddaear a ddug ei ffrwyth.

19. Fy mrodyr, od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef;

20. Gwybydded, y bydd i'r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lliaws o bechodau.