Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Iago 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau?

2. Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn.

3. Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau.

4. Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i'r byd, y mae'n elyn i Dduw.

5. A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer, At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni?

6. Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu'r beilchion, ond yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.

7. Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych.

8. Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â'r meddwl dauddyblyg.

9. Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn dristwch.

10. Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a'ch dyrchafa chwi.

11. Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith, ac yn barnu'r gyfraith: ac od wyt ti yn barnu'r gyfraith, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith, eithr barnwr.

12. Un gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall?

13. Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn:

14. Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu.

15. Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a'i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hynny.

16. Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pob cyfryw orfoledd, drwg ydyw.

17. Am hynny i'r neb a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.