Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Iago 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr: gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy.

2. Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno'r holl gorff hefyd.

3. Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau'r meirch, i'w gwneuthur yn ufudd i ni; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch.

4. Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno'r llywydd.

5. Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn!

6. A'r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae'r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi'r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern.

7. Canys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a'r pethau yn y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol:

8. Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol.

9. Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a'r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw.

10. O'r un genau y mae'n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai'r pethau hyn fod felly.

11. A ydyw ffynnon o'r un llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw?

12. A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden, ffigys? felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw.

13. Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb.

14. Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd.

15. Nid yw'r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw.

16. Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg.

17. Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith.

18. A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i'r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.