1. Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i'r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chysegr bydol.
2. Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a'r bwrdd, a'r bara gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr.
3. Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf;
4. Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a'r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau'r cyfamod:
5. Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi'r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.
6. A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw:
7. Ac i'r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi'r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto'i hun, a thros anwybodaeth y bobl.
8. A'r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, nad oedd y ffordd i'r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai'r tabernacl cyntaf yn sefyll:
9. Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio'r addolydd;
10. Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad.
11. Eithr Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeiladaeth yma;
12. Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i'r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad.
13. Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd;
14. Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy'r Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw?
15. Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi'r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.
16. Oblegid lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr.
17. Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym: oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo'r testamentwr yn fyw.
18. O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed.
19. Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a'i taenellodd ar y llyfr a'r bobl oll,
20. Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi.
21. Y tabernacl hefyd a holl lestri'r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd.
22. A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.
23. Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau'r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â'r pethau hyn; a'r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn.
24. Canys nid i'r cysegr o waith llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni:
25. Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis y mae'r archoffeiriad yn myned i mewn i'r cysegr bob blwyddyn, â gwaed arall:
26. (Oblegid yna rhaid fuasai iddo'n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun.
27. Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn:
28. Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i'r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.