1. Parhaed brawdgarwch.
2. Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod.
3. Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff.
4. Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a'r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw.
5. Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i'r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith:
6. Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
7. Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.
8. Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd.
9. Na'ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd.
10. Y mae gennym ni allor, o'r hon nid oes awdurdod i'r rhai sydd yn gwasanaethu'r tabernacl i fwyta.
11. Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i'r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i'r gwersyll.
12. Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai'r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i'r porth.
13. Am hynny awn ato ef o'r tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef.
14. Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl.
15. Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef.
16. Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
17. Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di‐fudd i chwi yw hynny.
18. Gweddïwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth.
19. Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt.
20. A Duw'r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol,
21. A'ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i'r hwn y byddo'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
22. Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch.
23. Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd; gyda'r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi.
24. Anerchwch eich holl flaenoriaid, a'r holl saint. Y mae'r rhai o'r Ital yn eich annerch.
25. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.At yr Hebreaid yr ysgrifennwyd o'r Ital, gyda Thimotheus.