Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn: Y mae gennym y fath Archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd;

2. Yn Weinidog y gysegrfa, a'r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn.

3. Canys pob archoffeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau: oherwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai.

4. Canys yn wir pe bai efe ar y ddaear, ni byddai yn offeiriad chwaith; gan fod offeiriaid y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ôl y ddeddf:

5. Y rhai sydd yn gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorffen y babell: canys, Gwêl, medd efe, ar wneuthur ohonot bob peth yn ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

6. Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell.

7. Oblegid yn wir pe buasai'r cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i'r ail.

8. Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, Wele, y mae'r dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ac â thŷ Jwda gyfamod newydd:

9. Nid fel y cyfamod a wneuthum â'u tadau hwynt, yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i'w dwyn hwy o dir yr Aifft: oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i, minnau a'u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd.

10. Oblegid hwn yw'r cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt: a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl:

11. Ac ni ddysgant bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt‐hwy oll a'm hadnabyddant i, o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt.

12. Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a'u pechodau hwynt a'u hanwireddau ni chofiaf ddim ohonynt mwyach.

13. Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hen. Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus, sydd agos i ddiflannu.