25. Ac i holl frenhinoedd Simri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid;
26. Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda'i gilydd; ac i holl deyrnasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt.
27. A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i'ch plith.
28. Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o'th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Diau yr yfwch:
29. Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd? Na ddihengwch; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd Arglwydd y lluoedd.
30. Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr Arglwydd oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear.
31. Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a'r cenhedloedd: efe a ymddadlau â phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i'r cleddyf, medd yr Arglwydd.
32. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear.
33. A lladdedigion yr Arglwydd a fyddant y dwthwn hwnnw o'r naill gwr i'r ddaear hyd y cwr arall i'r ddaear: ni alerir drostynt, ac nis cesglir, ac nis cleddir hwynt; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear.
34. Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a'ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol.
35. Metha gan y bugeiliaid ffoi, a chan flaenoriaid y praidd ddianc.
36. Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac udfa blaenoriaid y praidd: canys yr Arglwydd a anrheithiodd eu porfa hwynt.