Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr Arglwydd oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear.