Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda'i gilydd; ac i holl deyrnasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt.